Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Jonathan Edwards wedi galw heddiw ar Gymru i gael ei harian papur ei hun.
Dywedodd llefarydd y blaid ar faterion ariannol yn San Steffan bod angen i Fanc Lloegr symud gyda’r oes yn dilyn datganoli, ac y byddai cael ei harian ei hun yn “hwb” i statws cenedlaethol Cymru.
Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eisoes eu harian papur eu hunain sydd ag wynebau adnabyddus o’r gwledydd hynny arnyn nhw, ac mae gan yr arian yr un gwerth a statws cyfreithiol a’r rheiny o unrhyw ran arall o Brydain.
Felly a fyddai’n syniad da i Gymru gael yr un peth? Oes angen ein harian papur unigryw ein hunain er mwyn dangos ein bod ni’n genedl o statws cydradd ag eraill o fewn Prydain? Fyddai hynny’n cryfhau Cymru fel endid economaidd?
Neu ai cam symbolaidd fyddai hynny sydd yn fwy o drafferth na’i werth? Oes angen printio arian gwahanol pan fo pawb wedi arfer defnyddio’r hyn sydd ganddyn nhw? A fyddai’n achosi trafferthion wrth geisio defnyddio arian ‘Cymreig’ yng ngweddill Prydain?
A phetai newid o’r fath yn cael ei wneud, pa Gymry amlwg hoffech chi eu gweld ar yr arian papur? Rhowch wybod i ni yn y blwch sylwadau isod.