Bydd meddygon iau yn Lloegr yn mynd ar streic yr wythnos nesaf wedi’r cwbl ar ôl iddyn nhw fethu â chyrraedd cytundeb â Llywodraeth y DU mewn trafodaethau diweddar.
Dywedodd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) fod y trafodaethau wedi methu ar ôl i’r Llywodraeth wrthod ceisio dod i “gytundeb teg”. Dywedodd y BMA bod safiad y Llywodraeth “wedi’i seilio ar ideoleg yn hytrach na rheswm.”
Mae’r streic llawn gwreiddiol wedi’i ganslo ac yn lle, bydd meddygon iau yn darparu gofal brys yn unig rhwng 8 y bore ddydd Mercher, 10 Chwefror hyd at 8 y bore ar y diwrnod canlynol.
Mae’r anghydfod yn ymwneud a chodiad cyflog o 11% sydd wedi cael ei gynnig gan y Llywodraeth, ond fe fydd gostyngiad yn nifer yr oriau dros y penwythnos y gall meddygon iau hawlio cyflog ychwanegol am weithio oriau anghymdeithasol.
Fe fydd miloedd o lawdriniaethau ac apwyntiadau yn cael eu canslo oherwydd y streic.