Mae gwyddonwyr y DU wedi cael yr hawl i addasu genynnau embryo dynol am y tro cyntaf, yn dilyn cymeradwyaeth gan y rheoleiddiwr Awdurdod Ffrwythloni ac Embryoleg Ddynol (HFEA).
Mae’r drwydded yn golygu y gall gwyddonwyr ‘addasu genynnau’ yn eu hymchwil.
Mae gwyddonwyr sy’n ymchwilio i’r hyn sy’n digwydd yn ystod saith diwrnod cyntaf ar ôl ffrwythloniad wedi croesawu’r penderfyniad, ac maen nhw’n gobeithio y bydd yn eu helpu i ddysgu mwy am anffrwythlondeb neu golli plentyn yn y groth.
Er hyn, mae’n anghyfreithlon i fewnblannu’r embryonau hyn i fenywod.
Yn ôl datganiad gan HFEA: “Mae ein Pwyllgor Trwyddedu wedi cymeradwyo cais gan Dr Kathy Niakan o Sefydliad Francis Crick i adnewyddu ei thrwydded ymchwil labordy i gynnwys addasu genynnau mewn embryonau.”
Ond, mae’r pwyllgor wedi dweud na fydd unrhyw ymchwil sy’n ‘addasu genynnau’ yn cael ei weithredu tan eu bod wedi derbyn cymeradwyaeth Moeseg Ymchwil.
‘Anffrwythlondeb yn gyffredin iawn’
Bwriad ymchwilwyr Sefydliad Francis Crick yw defnyddio’r dull i wneud newidiadau manwl i DNA a newid gweithgarwch y genynnau yn ystod cyfnod cynnar yr embryo.
Byddai’r embryonau’n cael eu darparu gan gyplau sy’n derbyn triniaeth IVF ac nad sydd eu hangen.
Mae Deddf Ffrwythloni ac Embryoleg Ddynol 2008 yn nodi y gallan nhw eu defnyddio at ymchwil sylfaenol yn unig, eu dinistrio ar ôl pythefnos, ac ni allan nhw gael eu mewnblannu i grothau menywod.
Ond, yn sgil cymeradwyaeth newydd HFEA, gallai’r ymchwil newydd ddechrau o fewn ychydig fisoedd.
Fe esboniodd Dr Kathy Niakan bod gwyddonwyr am “ddeall y genynnau sydd eu hangen ar embryo dynol i ddatblygu’n faban iach.”
“Mae colli plentyn ac anffrwythlondeb yn gyffredin iawn, ond dy’n nhw ddim yn ddealledig iawn,” meddai.
‘Babanod wedi’u dylunio’
Yn y tymor hir, fe allai’r ymchwil olygu y gellid mewnblannu’r embryo sydd â’r cyfle gorau o ddatblygu, neu addasu’r genynnau i roi’r siawns gorau o oroesiad i’r embryo.
Gallai hyn arwain at ddatblygiadau sylweddol mewn gwyddoniaeth a meddyginiaethau, ond mae rhai wedi beirniadu cyflymdra’r cynllun.
Maen nhw’n ofni y byddai’n arwain at gamddefnydd o dechnoleg o’r fath, gan greu “babanod wedi’u dylunio.”
Pryder arall yw y gallai newidiadau i DNA embryonig adael effeithiau niweidiol anhysbys ar y corff, ac efallai trosglwyddo “camgymeriadau” genetig i genedlaethau’r dyfodol.