Fe fydd y ddadl dros gynhyrchu arian parod sy’n benodol i Gymru yn cael ei wneud yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw wrth i Fesur ar Fanc Lloegr gael ei ddarllen am yr ail dro yn y Senedd.
Mae’r Aelod Seneddol a llefarydd y Trysorlys ar ran Plaid Cymru, Jonathan Edwards, hefyd am weld newid enw Banc Lloegr i ‘Fanc Canolog y Bunt’ a gwneud y banc yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Bydd yn dadlau heddiw y dylai llywodraethant ac atebolrwydd y Banc Canolog adlewyrchu’r Deyrnas Unedig ddatganoledig, gan mai yn 1694 y cafodd Banc Lloegr ei greu.
Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu harian papur ei hun yn barod a dywedodd Jonathan Edwards, y dylai Grŵp Bancio Lloyds, sydd â’r hawliau dros frand Banc Cymru, gael yr hawl i gyflwyno arian Cymreig.
‘Cenedl gyfartal’
Byddai cael arian Cymreig yn “rhoi hwb i gymeriad cenedlaethol Cymru, a’i chydnabyddiaeth fel cenedl gyfartal ac fel endid economaidd,” yn ôl yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
“Os gall yr Alban a Gogledd Iwerddon ei wneud, dylai ddim rheswm pam na all Gymru chwaith,” meddai.
“Rwy’n ceisio newid y Mesur hefyd fel bod llywodraethant, democratiaeth ac atebolrwydd Banc Lloegr yn cael ei newid i adlewyrchu realiti datganoli economaidd o fewn y DU.”
Galwodd hefyd ar i Gymru gael pleidlais ar y pwyllgor polisi ariannol sy’n pennu cyfraddau llog sy’n effeithio ar economi’r DU.
“Yn rhy aml, mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn Llundain, heb feddwl am Gymru na’r gwledydd eraill (yn y DU).”