Mae dau ddyn wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i gorff dynes 51 oed mewn tŷ ger Castell-nedd.

Fe ddywedodd Heddlu De Cymru fod y ddau ddyn lleol, 43 oed a 46 oed, yn parhau yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Canolog Abertawe.

Galwyd swyddogion yr heddlu i Heol Fairyland, Tonna ychydig cyn 8yb ddydd Sadwrn, Ionawr 30.

Mae’r Heddlu’n parhau i ymchwilio i farwolaeth Andrea Lewis.

Apelio am wybodaeth

“Ar ran Heddlu De Cymru, carwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau Andrea Lewis,” meddai Kath Pritchard, Prif Dditectif Arolygydd Heddlu’r De.

“Er bod gennym ddau ddyn yn y ddalfa, hoffwn glywed gan unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn ardal Heol Fairyland, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth allai ein helpu gyda’n hymchwiliad i farwolaeth Andrea.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1600033245.