Mae hunan-fomiwr yn Afghanistan wedi lladd o leiaf naw person ac anafu 12 mewn ymosodiad ar safle’r heddlu yn Kabul.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu yn Kabul, Basir Mujahid, fod yr ymosodwr wedi ymuno â llinell o bobol yn aros i fynd i mewn i’r pencadlys lleol o’r heddlu cenedlaethol ar ôl cael cinio ac addoli y tu allan.

Yn ôl Basir Mujahid, roedd y rhan fwyaf o’r rhai a gafodd eu lladd yn ddinasyddion a dau ohonynt yn swyddogion yr heddlu.

Roedd yr ymosodiad wedi targedu’r Heddlu Sifil Cenedlaethol, sy’n aml yn ymladd ar flaen y gad yn erbyn y Taliban.

Digwyddodd mewn rhan brysur o orllewin Kabul, yn agos i’r sw.

Mae’r Taliban bellach wedi dweud ar Twitter ei fod yn gyfrifol am yr ymosodiad.