Cafodd angladd y cricedwr Matthew Hobden, fu’n chwarae yn y gorffennol i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd ac Ynysygerwn, ei gynnal fore Llun.

Roedd yr angladd yn un preifat i’r teulu, ond fe fydd gwasanaeth coffa cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Eastbourne ddydd Gwener.

Mae lle i gredu bod Hobden, 22 ac a fu’n chwarae i Swydd Sussex ers 2014, wedi syrthio i’w farwolaeth oddi ar do plasty yn yr Alban dros y flwyddyn newydd.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan yr heddlu yn Dalvey House yn Sir Moray ar Ionawr 2.

Mae lle i gredu bod Hobden a’i ffrindiau wedi dringo i ben to’r adeilad a’i fod yntau wedi mynd i gysgu, ac wedi syrthio’n fuan ar ôl dihuno.

Ond dydy ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

Gyrfa

Fe fu Matthew Hobden chwarae i dîm cynta’r sir ers 2014.

Gwnaeth ei ymddangosiad dosbarth cyntaf mewn criced yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton.

Cafodd ei enwi yng ngharfan Rhaglen Berfformio Potensial Lloegr ar gyfer taith i Dde Affrica fis nesaf, lle byddai wedi bod yn helpu’r brif garfan yn eu paratoadau ar gyfer cyfres undydd ryngwladol 50 pelawd.

Chwaraeodd yr olaf o’i 18 o gemau i Swydd Sussex fis Awst diwethaf.

Yn fyfyriwr, aeth i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, lle graddiodd mewn Busnes a Chyllid, ac fe gynrychiolodd dîm criced y brifysgol rhwng 2011 a 2014.

Fe chwaraeodd i Glwb Criced Ynysygerwn yn Uwch Gynghrair De Cymru yn 2013.

Ar eu safle Twitter adeg ei farwolaeth, dywedodd y clwb: “Mae pawb yn Ynysygerwn yn drist o glywed y newyddion am Matt Hobden o Sussex CCC. Rydym yn cydymdeimlo gyda’i deulu.”