Tom Lawrence yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru (llun: David Davies/PA)
Mae Caerdydd wedi cadarnhau eu bod bellach wedi arwyddo’r ymosodwyr Tom Lawrence a Kenneth Zohore ar fenthyg am weddill y tymor.
Roedd Lawrence wedi bod ar fenthyg gyda Blackburn am hanner cyntaf y tymor, ond fe fydd blaenwr Caerlŷr nawr yn treulio’r misoedd nesaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Fe enillodd Lawrence ddau gap dros Gymru llynedd, ac fe fydd y chwaraewr 22 oed yn gobeithio manteisio ar y cyfle i greu argraff gyda Chaerdydd er mwyn ennill lle yn y garfan ar gyfer Ewro 2016.
Mae Zohore yn ymuno â’r Adar Gleision o un o glybiau eraill Vincent Tan, ar ôl i’r Gynghrair Bêl-droed roi caniatâd i’r trosglwyddiad fynd yn ei blaen.
Fe arwyddodd yr ymosodwr 22 oed i Odense yn Nenmarc llynedd, ond mae KV Kortrijk o Wlad Belg nawr wedi’i brynu a’i fenthyg yn syth i Gaerdydd.