Mae pennaeth cwmni Hitachi wedi rhybuddio y gallai dynnu allan o brosiect Wylfa Newydd oni bai bod modd dod i gytundeb ariannol gyda Llywodraeth Prydain.

Mae cadeirydd Hitachi, Hiroaki Nakanishi wedi dweud wrth y Telegraph ei fod yn gofidio am ddyfodol y prosiect.

Mae Hitachi yn berchen ar Horizon, sy’n gyfrifol am y cynlluniau i godi’r Wylfa Newydd, a allai agor erbyn dechrau’r 2020au.

Dywedodd Nakanishi fod Hitachi wedi cynnig “amodau teg iawn ar gyfer ein buddsoddiad”, ond na fyddai cytundeb oni bai ei fod yn ddichonadwy.

Ychwanegodd fod Hinkley Point wedi taflu cysgod dros Wylfa Newydd, ac y gallai problemau tebyg godi unwaith eto.

Dywedodd Horizon fod “trafodaethau’n poethi”.