Mae lle i gredu bod tri o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o saethu peilot hofrennydd o wledydd Prydain yn farw yn Tanzania.

Roedd Roger Gower, 37, yn helpu’r awdurdodau i atal helwyr rhag saethu eliffantod pan saethodd helwyr at ei hofrennydd mewn gwarchodfa ger parc cenedlaethol y Serengeti a’i ladd ddydd Gwener.

Bu farw cyn i unrhyw un allu ei gyrraedd a’i achub.

Mae ymgyrchwyr wedi talu teyrnged i ddyn y maen nhw’n ei alw’n “ffrind annwyl”.

Fe fu Tanzania yn brwydro yn erbyn helwyr ifori ers cryn amser, wrth i adroddiad y llynedd ddweud bod 60% o eliffantod y wlad wedi cael eu lladd yn ystod y pum mlynedd diwethaf.