Mae ymchwil newydd yn dangos y gallai 68% o boblogaeth Cymru fod yn talu £327 yn llai am eu biliau ynni bob blwyddyn.

Y gred yw bod tua 886,000 o gartrefi yng Nghymru yn dal i fod ar dariffau safonol ac y byddai newid i dariff sefydlog yn gallu arbed cannoedd iddyn nhw bob blwyddyn.

Yn ôl ymchwil y rheoleiddiwr ynni, Ofgem, mae’r tariffau rhataf yn rai sefydlog sy’n costio tua £792 y flwyddyn, o gymharu â thua £1,119 am dariff safonol.

Does dim terfyn amser na ffi gadael ar dariffau safonol a dydy eu prisiau nhw ddim yn sefydlog, felly gall cyflenwyr ynni eu newid ar yr amod eu bod yn rhoi digon o rybudd i gwsmeriaid.

Yn wahanol felly i dariffau sefydlog, sydd â phrisiau sefydlog ond â ffi gadael, er yn ôl Ofgem, mae’r ffioedd hyn yn lleihau ac mae rhai cwmnïau wedi cael gwared arnyn nhw’n gyfan gwbl.

Arbed £327

“Mae ymchwil Ofgem yn dangos y gallai llawer o gwsmeriaid yng Nghymru fod ar eu hennill o tua £327 drwy newid o gyfradd safonol i gyfradd cytundeb sefydlog,” meddai Dermot Nolan, prif weithredwr Ofgem.

“Ni fu amser gwell i siopa am ynni ac mae ein gwefan Bydd yn Siopwr Ynni yn rhoi cyngor annibynnol i chi ar sut i gael cytundeb ynni gwell a dolenni i wefannau newid cyflenwr wedi’u hachredu gan Ofgem.”

Mae modd cael cyngor hefyd dros y ffôn ar linell gymorth Cyngor ar Bopeth ar 0845 04 05 06 ac i gael gwybodaeth, cymorth neu gyllid i wneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor ar Arbed Ynni drwy ffonio 0300 123 1234.