Mae ymchwiliad i archfarchnad Tesco wedi canfod bod y cwmni wedi torri cod y diwydiant yn “ddifrifol” drwy oedi cyn talu cyflenwyr.
Dangosodd yr adroddiad hir ddisgwyliedig fod yr archfarchnad wedi oedi cyn talu cyflenwyr “yn fwriadol”.
Dywedodd y Dyfarnwr Cod Cyflenwi Bwydydd fod Tesco hefyd wedi gwneud gostyngiadau “unochrog”.
Mae’r corff dyfarnu bellach wedi gwneud cyfres o argymhellion i’r cwmni, gan ddweud y dylai fod yn fwy tryloyw wrth ddelio â chyflenwyr.
‘Peri pryder’
Roedd adroddiad 84 tudalen y dyfarnwr yn dweud bod Tesco wedi torri’r cod cyfreithiol oedd yn diogelu cyflenwyr bwyd.
“Darganfyddais fod Tesco wedi oedi talu’r cyflenwyr yn fwriadol er mwyn gwella ei sefyllfa ariannol ei hun,” meddai Christine Tacon oedd yn gyfrifol am ysgrifennu’r adroddiad.
“Roedd cyfnod yr oedi, pa mor gyffredin oedden nhw, a’r amryw o arferion afresymol ac ymddygiad Tesco yn peri pryder i mi.”
Roedd un cyflenwr heb gael tâl o dros £1m oherwydd bod newidiadau prisiau yn cael eu hychwanegu’n anghywir i systemau Tesco.
Yn y diwedd, cafodd yr arian ei dalu yn ôl gan yr archfarchnad dros ddwy flynedd ar ôl i’r prisiau anghywir ddechrau cael eu codi, yn ôl y dyfarnwr.