Bydd cyrsiau newydd i staff a gwirfoddolwyr y Mudiad Meithrin yn cael eu lansio heddiw yn swyddfa’r mudiad yng Nghaerdydd.

Alwen Williams, Cyfarwyddwr BT Cymru, fydd yn agor y cyrsiau newydd dan gynllun hyfforddi Academi y mudiad, a gafodd ei lansio yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn fis Awst diwethaf.

Bydd cyrsiau newydd y cynllun bellach ar gael ar-lein, yn lleol ac yng nghylch meithrin hyfforddi Academi yng Nghaerdydd gyda’r nod o adnabod talent, datblygu dealltwriaeth a chynyddu gallu o fewn y mudiad.

“Roedd yn fraint gallu darparu cyngor fel ymgynghorydd ar gychwyn taith Mudiad Meithrin i sefydlu cynllun uchelgeisiol Academi 12 mis yn ôl,” meddai Alwen Williams cyn y lansiad.

“Mae’n hynod gyffrous gallu lansio’r cyrsiau cyntaf o dan gynllun Academi sy’n rhoi cyfle i weithwyr a gwirfoddolwyr cymuned cylchoedd meithrin fanteisio ar y cyfle i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth unrhyw bryd ac o unrhyw le.”

 

‘Cyfleoedd newydd’

Mae’r cyrsiau ar gael i’w gweld ym mhrosbectws y cynllun a’r bwriad yw ychwanegu ato yn rheolaidd.

Ymysg y cyrsiau sy’n cael eu cynnig yw ‘Y Gegin Fwd’, ‘Y Cyfryngau Cymdeithasol’, ‘Beth yw’r Cyfnod Sylfaen?’ a ‘Rheoli Perfformiad’.

“Mae Academi yn fenter gyntaf o’i fath i Mudiad Meithrin ac yn darparu cyfleoedd hollol newydd ac unigryw i weithlu a gwirfoddolwyr blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg,” meddai Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr Mudiad Meithrin a sefydlwr Academi.

“Mae Academi yn perthyn i holl gymuned Mudiad Meithrin ac rydym yn falch o weld y cyrsiau cyntaf yn llenwi’n sydyn.”

Bydd y lansiad yn digwydd y prynhawn yma am 2 o’r gloch ym Mharc Busnes Porth Caerdydd, Pontprennau, Caerdydd.