Mae pentref Eglwyswrw ddiwrnod yn nes at dorri record Brydeinig, yn dilyn 83 diwrnod o law yn olynol.

89 diwrnod yw’r record bresennol yng ngwledydd Prydain, a honno wedi’i gosod gan ynys Islay yn yr Alban yn 1923.

Mae’n golygu y bydd yn rhaid iddi fwrw glaw bob dydd yr wythnos hon er mwyn cael torri’r record ddydd Sul nesaf.

Yn ôl arbenigwyr o’r Swyddfa Dywydd, mae lleoliad pentref Eglwyswrw yn Sir Benfro – a’r rhagolygon ar gyfer yr wythnos i ddod – yn golygu ei fod yn debygol o dorri’r record.

Dywedodd John Davies o Eglwyswrw wrth Golwg360: “Fe gawson ni law ddoe, a rhyw ychydig y prynhawn yma, sy’n golygu bod y rhediad yn parhau.

“’Run man iddo fe barhau nawr i gael gweld os gallwn ni dorri’r record!”.