Mae Golwg360 wedi cael ar ddeall mai rheolwyr canol Tata Steel yn bennaf fydd yn colli eu swyddi pan fydd y cwmni’n gwneud cyhoeddiad yr wythnos nesaf.

Gallai 620 o swyddi gael eu colli ym Mhort Talbot, a 115 yn Llanwern, sy’n cyfateb i 7% o’r gweithlu.

Mae lle i gredu hefyd y gallai’r cwmni roi’r hawl i nifer o’u gweithwyr yng Nghymru adael y cwmni o’u gwirfodd gan fod ganddyn nhw record wael o ran salwch.

Mae’r newyddion yn destun pryder, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Jenkins.

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd hi wrth Golwg360: “Mae’r holl ardal yn dibynnu ar y swyddi.”

Cefndir

Gallai’r toriadau effeithio ar safleoedd eraill y cwmni yn Lloegr gan fod Tata yn cyflogi 6,000 o weithwyr ledled Cymru a 17,000 ym Mhrydain.

Mae disgwyl cyhoeddiad gan y cwmni’r wythnos nesaf.

Dydy Tata Steel ddim wedi gwneud sylw am y mater hyd yn hyn, ac mae disgwyl i drafodaethau barhau yr wythnos nesaf.

Gwaethygu mae’r argyfwng dur yn y Deyrnas Unedig, yn dilyn miloedd o ddiswyddiadau ym mis Hydref yng ngweithfeydd Tata Steel yn Scunthorpe a’r Alban, gydag ofnau fod rhagor ar y ffordd.

Dur rhad o China a chostau ynni yn y wlad hon sy’n cael y bai am fwrw cysgod du dros y diwydiant, ac mae cynrychiolwyr wedi galw ar lywodraethau gwledydd Prydain i weithredu er mwyn ei achub.

Ergyd

Dywedodd Bethan Jenkins wrth Golwg360 fod rhaid i lywodraeth ar bob lefel fod yn barod i ymateb i’r argyfwng.

“Rwy wedi clywed bod trafodaethau’n digwydd o ran ail-strwythuro gan fod y cwmni’n colli cymaint o arian, a bwriad y trafodaethau yw gwneud y cwmni’n fwy llewyrchus.

“Mewn cyfnod difrifol i’r diwydiant dur yng Nghymru, mae angen i lywodraeth ar bob lefel weld sut maen nhw’n gallu helpu.”

Mae Plaid Cymru’n galw am sefydlu tasglu i geisio diogelu swyddi, ac am wladoli rhan o’r diwydiant dur er mwyn amddiffyn hawliau’r gweithwyr, meddai.

Ymateb yr undebau

Ar raglen Sunday Politics y BBC, dywedodd Rob Edwards o undeb Community: “Rydyn ni’n gwylio’r diwydiant rydyn ni’n ei garu ac sydd wedi bod yn rhan mor fawr o hanes diwydiannol Cymru, yn dirywio i’r fath raddau nes y gallai fynd dros y dibyn a dyna’i diwedd hi.

“Dydw i ddim yn hollol sicr bod San Steffan yn ei weld yn y ffordd y dylen nhw ei weld.

“Pe bai’n fanc, yna fe fydden nhw’n ymyrryd. Fodd bynnag, gan nad yw’n rhan o Lundain ac am nad yw yng nghanol y ddinas, dydyn nhw ddim fel pe baen nhw’n ei gymryd o ddifri.”

Ymateb Edwina Hart

Ar y rhaglen, dywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru, Edwina Hart mai mater i Lywodraeth Prydain fyddai ymyrryd yn y diwydiant dur.

Dywedodd fod yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn gyfyng, ond eu bod yn barod i wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi’r diwydiant dur.

“O ran dur, mae pobol yn credu ei fod yn debyg i unrhyw beth arall. Dydy e ddim.

“Mae rheolau yn eu lle ynghylch cymorth gan y wladwriaeth mewn perthynas â dur.

“Yn nhermau’r hyn y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru, mae’n gyfyng iawn arnon ni.

“Os siaradwch chi ag unrhyw un o’r cwmnïau dur, fe fydden nhw’n gwybod am y berthynas agos rhyngddyn nhw a ni a’r ffaith ein bod ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu nhw.”

Stori: Alun Rhys Chivers