Donald Trump
Mae Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn wedi dweud wrth Golwg360 ei bod hi’n bwysig gwrando ar lais y bobol cyn penderfynu gwahardd Donald Trump rhag dod i wledydd Prydain

Bydd y mater yn cael ei drafod mewn dadl yn Neuadd San Steffan yn Llundain ddydd Llun.

Ar drothwy’r ddadl honno, dywedodd Paul Flynn wrth Golwg360: “Ein dyletswydd ni yw rhoi rhywfaint o amser i lais y bobol ac nid i bethau mae’r Llywodraeth na gwleidyddion eraill am eu trafod.

“Does dim dewis i ni ond cael dadl.”

Ond nid gwahardd Trump  rhag dod i wledydd Prydain, yw’r ateb yn ôl Paul Flynn.

“Mae’n wir i ddweud bod Donald Trump yn euog o siarad gyda chasineb.

“Mae gyda ni ddigon o precedents i wneud penderfyniad i’w wahardd oherwydd beth mae’n ei ddweud am bobol anabl, gwragedd, pobol o Fecsico a Mwslemiaid.”

Merthyr

Ond mae Paul Flynn yn rhybuddio rhag y perygl o greu delwedd o Trump fel merthyr.

“Ond os ydyn ni’n edrych fel gwlad sy’n dweud be ’di be, bydd posibilrwydd i Trump gael mantais drwy edrych fel victim.

“Os bydd y senedd hon yn dweud na ddylai Trump gael dod yma, bydd yn bosibl iddo apelio i’r llys a chael mantais yn ei wlad ei hun.

“Bydd hynny’n ei helpu yn ei ymgyrch bresennol [fel ymgeisydd arlywyddol]. Dyna’r awyrgylch o victimhood sy’n bodoli yn yr Unol Daleithiau.”

Isis

Er nad yw’n credu y dylid gwahardd Donald Trump rhag dod i wledydd Prydain, mae Paul Flynn yn croesawu penderfyniadau blaenorol Llywodraeth Prydain i wahardd nifer o unigolion sy’n pregethu negeseuon o gasineb.

“Mae’n bwysig bod pobol o Isis wedi cael eu gwahardd – pobol sy’n creu perygl o broblemau yn y gymuned.

“Dyna pam ei bod yn bwysig sicrhau bod heddwch yn y wlad.

“Mae’r sefyllfa ar hyn o bryd yn fregus dros ben. Dydy hi ddim yn syniad da cael pobol sy’n pregethu hiliaeth i ddod yma.”

Cynsail

Cyfeiriodd Paul Flynn at achos Geert Wilders, y gwleidydd o’r Iseldiroedd a gafodd ei wahardd rhag dod i wledydd Prydain yn 2009 wedi iddo ysgrifennu ffilm am farn y cyhoedd am Islam a’r ffactorau sy’n ysbrydoli eithafwyr.

Roedd Wilders wedi’i gyhuddo o ennyn casineb drwy’r ffilm, ac fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Jacqui Smith fod Wilders yn “berson annymunol”.

Teithiodd Wilders i wledydd Prydain er gwaetha’r gwaharddiad, a chael ei anfon adref gan yr awdurdodau.

Ychwanegodd Paul Flynn: “Roedd llawer o gyhoeddusrwydd wedi’i roi i’r ffaith fod Wilders yn dod yma ac roedd y gwaharddiad yn fwy o help i Wilders i gael cyhoeddusrwydd i bolisiau hiliol.”

Tim Farron

Mae barn Paul Flynn wedi’i ategu gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan, Tim Farron.

Mewn datganiad ar drothwy’r ddadl, dywedodd Farron: “Nid gwahardd Trump yw’r ateb. Dyma’r math o sylw y byddai ‘junkie’ cyhoeddusrwydd am ei gael.

“Dewch ag e draw yma a’i roi e ar lwyfan fel y gallwn chwalu ei safbwyntiau hyll a rhyfedd.

“Fe ddylai gael clywed beth yn union y mae pobol Prydain yn ei feddwl amdano fe.”

Bydd y ddadl yn cael ei chynnal yn Neuadd San Steffan am 4.30pm brynhawn Llun.