Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth dyn 21 oed yn nwyrain Glasgow nos Sadwrn.

Cafwyd hyd i Jamie Johnstone y tu allan i fflat am oddeutu 6 o’r gloch nos Sadwrn.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol, ac fe fu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth, ac maen nhw’n cynnal ymchwiliad o ddrws i ddrws yn yr ardal.