Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Drysorydd Cenedlaethol Plaid Cymru, Glyn Erasmus, fu farw’n sydyn nos Wener.

Fe dreuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa ym myd diwydiant fel dyluniwr, peiriannwr diwydiannol a rheolwr ansawdd.

Yn ddiweddarach, aeth i weithio ar ei liwt ei hun i Ewrop a’r Unol Daleithiau, ac roedd yn gadeirydd Undeb Credyd Plaid Cymru.

Roedd yn ymgeisydd rhanbarthol yn Nwyrain De Cymru i Blaid Cymru ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2007.

Mae’n gadael gwraig, Carol a dau fab, Owen a Simon.

‘Dyn syniadau’

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards wrth Golwg360 fod y brodor o Islwyn “wastod yn y cefndir” a bod ei farwolaeth yn “sioc i bawb”.

“Roedd ei arbenigedd ym myd diwydiant yn amhrisiadwy. Gallu mawr Glyn oedd ei allu i graffu ar syniadau.

“Does dim syndod ei fod e wedi cael nifer o swyddi pwysig o fewn y Blaid.

“Roedd e’n uchel ei barch. Pan fyddai Glyn yn siarad, byddai pobol yn gwrando arno fe.”

Ychwanegodd ei fod yn “hynod o ffein” ar lefel bersonol, a’r “math o ddyn y byddech chi’n hapus i gael cwpwl o beints gyda fe”.

Teyrngedau

Mae teyrngedau lu wedi’u rhoi i Glyn Erasmus ar wefan gymdeithasol Twitter.

Ar ei dudalen Twitter, dywedodd cyn-Lywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan: “Trist iawn am Glyn Erasmus – un o wir selogion y Blaid a Chymru.”

Ychwanegodd Undeb Plaid Cymru: “Heddiw, mae Cymru a Phlaid Cymru wedi colli dyn da. Cydymdeimladau dwysaf gyda theulu Glyn oddi wrth Undeb Plaid Cymru.”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: “Bydd aelodau Plaid Cymru, fel minnau, yn drist ac wedi cael sioc o glywed am golli ein hannwyl drysorydd, Glyn Erasmus. Cwsg mewn hedd Glyn x.”

Yn ei deyrnged yntau, dywedodd cyn-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, Mike Parker: “Newyddion siomedig fod yr hyfryd Glyn Erasmus wedi marw. Ganddo bob amser chwa o ffraethineb a doethineb ar Twitter, a boi gwych yn y byd go iawn.”