Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi galw am ateb gwleidyddol i geisio trechu’r Wladwriaeth Islamaidd yn Syria.

Dywedodd fod cyswllt eisoes yn bodoli rhwng Llywodraeth Prydain a’r eithafwyr, yn debyg i’r modd yr arweiniodd trafodaethau gyda’r IRA at ddirwyn anghydfod Gogledd Iwerddon i ben.

Ar raglen Andrew Marr y BBC, dywedodd Jeremy Corbyn: “Mae’n rhaid bod ffordd drwodd atyn nhw’n rhywle.

“Mae llawer o’r uwch-swyddogion yn Isil – yn enwedig yn Irac, ond hefyd yn Syria – yn gyn-swyddogion ym myddin Irac, mewn gwirionedd.

“Efallai mai deialog yw’r gair anghywir i’w ddefnyddio, ond mae’n rhaid bod peth dealltwriaeth o’u cryfderau, eu gwendidau a sut y gallwn ni herio’u hideoleg.”