Fe fydd gwasanaethau newydd yn cael eu sefydlu yng ngorllewin a chanolbarth Cymru ar gyfer cleifion y llygaid.

Bwriad y gwasanaethau newydd sy’n cael eu cynnig yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw lleihau amserau teithio i gleifion.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i holl gleifion y bwrdd iechyd deithio i Aberystwyth neu Rydaman.

Ond fe fydd y gwasanaethau newydd yn cael eu sefydlu yn Sir Benfro a de Ceredigion, gyda chleifion yn Sir Benfro yn mynd i Ddinbych-y-Pysgod neu i Ysbyty De Sir Benfro, a chleifion yng Ngheredigion yn mynd i Aberteifi neu i Grymych.

Bydd y gwasanaethau newydd yn canolbwyntio ar gyflwr sy’n achosi i gleifion golli eu golwg yn raddol.

Gallai’r gwasanaethau newydd gael eu cyflwyno ymhen tri neu bedwar mis.

Y gobaith yn y pen draw yw cynnig mwy o wasanaethau yn y gymuned.