Mae o leiaf 13 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn ymosodiad gan hunan-fomiwr ar gartref gwleidydd yn nwyrain Afghanistan.
Cafodd 14 o bobol eu hanafu yn yr ymosodiad ar gartref Obaidullah Shinwari yn ninas Jalalabad.
Mae Shinwari yn aelod o gyngor talaith Nangarhar, ac mae ei dad Malik Osman wedi bod yn ymgyrchydd brwd yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd yn y dalaith.
Mae disgwyl i nifer y meirw godi gan fod cynifer o bobol mewn parti yng nghartref y teulu, meddai llefarydd.
Does neb wedi hawlio’r cyfrifoldeb am y digwyddiad eto, ond mae’r Taliban yn gwadu mai nhw oedd wedi cynllunio’r ymosodiad.