Mae pôl piniwn yn awgrymu y byddai’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth pe bai Prydain yn pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar hyn o bryd, mae pôl piniwn gan Panelbase ar gyfer y Sunday Times a Heart FM yn dangos bod 65% o drigolion yr Alban yn gwrthwynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd, o’i gymharu â Lloegr, lle mae 47% yn unig yn gwrthwynebu.

Dim ond buddugoliaeth o 1% sydd ei angen yn Lloegr er mwyn i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi dweud bod mater Ewrop ar frig y rhestr o ffactorau a allai arwain at ymgyrchu dros ail refferendwm annibyniaeth.

Ac mae 54% o Albanwyr yn barod i’w chefnogi hi, meddai’r pôl.

Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos y byddai 52% o Albanwyr yn pleidleisio o blaid annibyniaeth pe bai refferendwm yn cael ei gynnal unwaith eto.

Dywedodd yr Athro John Curtice o Brifysgol Ystrad Clud wrth y Sunday Times: “Pe bai Prydain yn pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, fe allai symud y cydbwysedd ar annibyniaeth o fod yn erbyn o drwch blewyn i fod o blaid o drwch blewyn.”

Dangosodd y pôl fod 67% o Albanwyr yn credu y daw annibyniaeth i’r Alban o fewn pump i 30 o flynyddoedd.