Mae tridiau o alaru wedi dechrau yn Burkina Faso yn dilyn ymosodiad brawychol a laddodd o leiaf 28 o bobol.
Mae al-Qaida wedi dweud mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar westy a chaffi yn y brifddinas Ouagadougou, a’u nod oedd lladd cynifer o bobol ag y gallen nhw, meddai’r awdurdodau.
Roedd yr ymosodiad wedi para mwy na 12 awr ac roedd o leiaf 28 o bobol wedi marw pan ddaeth i ben.
Roedd tramorwyr a gweithwyr cymorth ymhlith y rhai a gafodd eu lladd ac mae lle i gredu eu bod nhw wedi cael eu targedu’n fwriadol.
Ymhlith y rhai a gafodd eu lladd roedd gwraig a merch perchennog caffi Eidalaidd, lle cafodd 10 o bobol eu lladd, dau o Ffrancwyr, chwech o Ganada, dau o’r Swistir ac un o’r Unol Daleithiau.
Llwyddodd rhai i ffoi a chuddio ar do bwyty cyfagos ac mewn toiledau.
Cafodd y pedwar brawychwr eu lladd gan yr awdurdodau, ac mae lle i gredu eu bod nhw’n hanu o Niger.
Mae lle i gredu bod tri o bobol yn dal yn gaeth – gan gynnwys meddyg oedrannus o Awstralia a’i wraig.