Bydd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn ymweld â Paris yn ystod taith tri diwrnod i Ffrainc i gwrdd â chwmnïau ynni a diwydiannol sy’n buddsoddi yng Nghymru.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cynnal derbyniad i nodi dechrau ‘Cymru yn Ffrainc’, sy’n ddathliad blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau diwylliannol, busnes a chwaraeon, gyda’r nod o gryfhau’r cysylltiad rhwng y ddwy wlad.

Mae gan oddeutu 80 o fusnesau Ffrengig swyddfeydd yng Nghymru, ac maen nhw’n cyflogi tua 10,000 o bobol.

Ar ôl yr Almaen, Ffrainc yw’r ail gyrchfan mwyaf ar gyfer allforion o Gymru, ac yn 2020 roedd yr allforion i Ffrainc yn werth ychydig dros £1.8bn.

Mae hefyd yn farchnad bwysig ar gyfer y celfyddydau, diwydiannau creadigol a sefydliadau addysgol.

Agenda’r ymweliad

Yn ystod ei amser yn Paris, bydd Mark Drakeford yn ymweld ag Archif Genedlaethol Ffrainc i weld Llythyr Pennal, gafodd ei anfon gan Owain Glyndŵr at Siarl VI, brenin Ffrainc, yn 1406 yn gofyn iddo gefnogi ei wrthryfel yn erbyn rheolaeth Lloegr.

Wedi’i ysgrifennu yn ystod un o synodau Eglwys Cymru ym Mhennal, mae’r llythyr yn cynnig cipolwg ar weledigaeth Owain Glyndŵr ar gyfer dyfodol Cymru.

Bydd y Prif Weinidog yn arwain dirprwyaeth o sefydliadau Cymreig i gwrdd â swyddogion UNESCO yn y pencadlys yn Paris, a bydd yn cwrdd â chynrychiolwyr i ddathlu’r berthynas unigryw sydd gan Gymru â Llydaw.

Mae hefyd wedi cael gwahoddiad gan Ffederasiwn Rygbi Ffrainc i wylio gêm olaf Cymru yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Stade de France.

‘Cymru yn wlad Ewropeaidd’

“Rwy’n hynod falch o lansio ein blwyddyn Cymru yn Ffrainc, yng nghanol Paris,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’r cysylltiadau cryf rhwng y ddwy wlad wedi’u gwreiddio yn yr hanes a’r diwylliant rydyn ni’n eu rhannu.

“Mae Ffrainc ymhlith y gwledydd sydd agosaf inni yn Ewrop, ac mae’r cyfleoedd sy’n cael eu datblygu rhwng busnesau yng Nghymru a Ffrainc yn drawiadol ac uchelgeisiol.

“Mae ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, y pandemig, yr argyfwng costau byw ac ymosodiad disymbyliad Rwsia ar Wcráin yn golygu, nawr yn fwy nag erioed, ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn sefyll ac yn gweithio gyda’n gilydd.

“Mae Cymru yn wlad Ewropeaidd sydd wedi ymrwymo i ddatblygu byd cynaliadwy, tecach a mwy cydweithredol.”

 

Cig oen Cymreig at ddant y Ffrancwyr

Mae Hybu Cig Cymru wedi bod yn croesawu dosbarthwyr bwyd o Ffrainc

Gwilym Bowen Rhys eisiau gweld llythyr Owain Glyndŵr yn dychwelyd i Gymru

Alun Rhys Chivers

Fe fu’r canwr a cherddor yn siarad â golwg360 yn ystod ymweliad â dinas Paris, lle mae Llythyr Pennal wedi’i gadw