Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod prinder mannau gwefru ceir trydan mewn ysbytai yng Nghymru yn “syndod” o gymharu â’r cynnydd disgwyliedig mewn cerbydau trydan dros y degawd nesaf.

Mae gwybodaeth ddaeth i law’r Ceidwadwyr Cymreig yn dangos mai dim ond 55 o fannau gwefru cerbydau trydan sydd mewn ysbytai yng Nghymru.

Dangosodd y ffigurau, ddaeth i law drwy gwestiwn ysgrifenedig gan Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig,  mai tri o’r saith bwrdd iechyd yn y wlad sydd â mannau gwefru.

Does dim mannau gwefru o gwbl ym myrddau iechyd y gogledd, y gorllewin na rhannau o’r de.

Mae gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro 18 o fannau gwefru ar draws dau safle, ac mae gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan Gwent 26 ar draws tri safle, gyda hanner ar gyfer staff a’r hanner arall ar gyfer ymwelwyr a chleifion.

Mae gan Fwrdd Iechyd Powys bump yn Aberhonddu a Machynlleth ar gyfer cleifion ac ymwelwyr, ac un ym Mronllys.

‘Angen i Lafur gael gafael ar y sefyllfa’

“Mae’n dipyn o syndod gweld pa mor wael mae ysbytai Cymru wedi eu harfogi i ddelio gyda chynnydd enfawr yn yr angen am bwyntiau gwefru ceir trydan a ddaw dros y degawd nesaf,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Er fy mod yn deall ei fod yn ddyddiau cynnar i gynllun datgarboneiddio Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, mae’n dangos nad oes unrhyw gynnydd o gwbl os nad oes mannau gwefru trydan yn y gogledd, y gorllewin a rhan helaeth o dde Cymru.

“Nid yn unig hynny, ond mae ffynonellau dibynadwy yn fy etholaeth wedi dweud wrthyf nad yw ateb y gweinidog Llafur ddim hyd yn oed yn gywir – does dim ym Machynlleth, a dydy’r rhai yn Aberhonddu ddim ar gael i’w defnyddio eto gan fod y dull talu heb ei osod eto, felly mae hyd yn oed yn waeth nag y mae’n ymddangos.

“Mae gwir angen i Lafur gael gafael ar y sefyllfa, gan baru eu rhethreg a’u gweithredoedd, gan sicrhau bod newid i gerbydau trydan ddim yn golygu bod pobol yn sownd mewn ysbytai, boed yn staff, cleifion neu ymwelwyr, oherwydd ar hyn o bryd, maen nhw wedi ein gadael ni’n hollol amharod.”