Mae’r £20m gafodd ei gyhoeddi yng Nghyllideb Canghellor San Steffan er mwyn adfer Morglawdd Caergybi wedi cael ei groesawu gan arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn.
Yn ôl Llinos Medi, sydd hefyd yn ddeilydd y portffolio Datblygu Economaidd, mae’r morglawdd yn “ased unigryw a hanesyddol”.
Cafodd y Morglawdd ei adeiladu rhwng 1846 ac 1873, ac mae’n filltir a hanner o hyd – y strwythur hiraf o’i fath yn Ewrop.
Cafodd ei adeiladu â cherrig o’r chwarel gerllaw, sydd bellach yn gartref i Barc Gwledig Morglawdd Caergybi, gafodd ei agor yn 1990.
“Mae’r Morglawdd yn ased unigryw a hanesyddol sy’n amddiffyn yr harbwr, y llongau sydd yn docio yno, y cyfleusterau ar hyd y glannau a’r dref rhag tywydd garw,” meddai Llinos Medi.
“Fel Cyngor, rydym wedi bod yn lobïo ers amser maith dros adfer y morglawdd ac rydym yn falch o weld arian sylweddol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, y sector preifat a nawr Llywodraeth y Deyrnas Unedig, er mwyn gwireddu’r prosiect adfer pwysig hwn.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r ddwy Lywodraeth a pherchnogion y porthladd, Stena Line, i sicrhau buddion economaidd i’r ardal leol ac i wneud yn siŵr bod y prosiect yn sbarduno ychwaneg o fuddsoddiad yng Nghaergybi ac Ynys Môn.”
‘Gwir angen cyfleoedd cyflogaeth newydd’
“Mae gwir angen cyfleoedd cyflogaeth newydd yma ar Ynys Môn, yn enwedig ar ôl derbyn cadarnhad y bydd ffatri 2 Sisters yn Llangefni yn cau ar Fawrth 31, gan arwain at golli dros 700 o swyddi,” meddai Dylan J Williams, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn.
“Mawr obeithiwn y bydd unrhyw gwmnïau sydd ynghlwm â’r prosiect i adfer y Morglawdd yn gwneud eu gorau glas i ddefnyddio cymaint o gwmnïau a llafur lleol â phosibl.
“Mae’r Cyngor Sir yn falch o fod wedi cael bod yn rhan o’r gwaith o ddylunio a chaniatáu’r gwaith arfaethedig, a fydd bellach yn cael ei gyflawni ar ran Stena Line i helpu i ddiogelu dyfodol y Morglawdd.”
Mae’r cais Porthladd Rhydd, gafodd ei gyflwyno ar y cyd gan y Cyngor Sir a Stena Line, yn cael ei asesu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
Y gobaith yw y bydd adferiad y morglawdd yn chwarae rhan bwysig arall yn llwyddiant cais Ynys Môn, yn ogystal â sicrhau cyllid Bargen Twf Gogledd Cymru ar gyfer y porthladd.