Mae perchennog y Black Boy yng Nghaernarfon yn croesawu’r cyhoeddiad am y dreth ar gwrw mewn tafarndai yng Nghyllideb Canghellor San Steffan ddoe (dydd Mercher, Mawrth 15).
Cyhoeddodd Jeremy Hunt y bydd y dreth ar alcohol 11 ceiniog yn is yn y bunt mewn tafarnau nag mewn archfarchnadoedd o fis Awst, ond gyda Llywodraeth ddatganoledig Cymru wedi gosod pris sylfaen ar werthu a chyflenwi alcohol, dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut fydd hyn yn effeithio ar Gymru.
Mae John Evans yn dweud ei fod o wedi gweld tafarndai yn gorfod cau oherwydd costau, ac felly mae’n croesawu’r newidiadau gafodd eu cyhoeddi yn y Gyllideb, ac yn gobeithio eu gweld yn dod i rym yng Nghymru.
A dydy o ddim yn gweld y newidiad yn y gyllideb yn gwneud fawr o wahaniaeth i archfarchnadoedd.
“Os ydach chi’n colli’r dafarn, rydach chi’n colli’r gymuned hefo fo,” meddai wrth golwg360.
‘Pwysig cadw tafarndai ar agor’
Mae John Evans yn tystio, fel un sydd wedi bod yn berchen nifer o dafarndai, fod tafarn wrth galon y gymuned ac yn dweud ei fod yn drist wrth weld tafarndai yn gorfod cau.
“Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig cadw tafarndai ar agor ac, oherwydd fy oed, rwy’n teithio lawr i le cefais fy ngeni ac mae yna lwyth o dafarndai wedi cau,” meddai.
“Mewn pentrefi bach, yn enwedig os ydach chi’n colli’r dafarn, rydach chi’n colli’r gymuned hefo fo.
“Dydy pobol ddim yn nabod ei gilydd.
“Un oedd yn sefyll allan i mi oedd pan oeddwn yn rhedeg tafarn yn Llanilar, lle’r oedd Dai Jones.
“Roedd y dafarn yn rhan bwysig o’r pentref i gyd.
“Yn y fan yna roedd y pêl-droed, criced, dartiau ac yn y blaen.
“Roedd Newborough ym Montnewydd yr un fath pan oeddwn i yn y fan yna.
“Roeddech yn rhan fawr o’r pentref.
“Mae tafarndai mewn trefi ychydig yn wahanol, maen nhw dal yn rhan o’r gymuned wedyn.
“Mewn trefi, mae rhai pobol yn licio un tafarn yn well na’r llall.
“Mae o’n beth da fod pob tafarn ddim yr un peth.”
Mwy na chwrw
Mae John Evans yn dweud bod gan dafarn lawer o gostau, a’u bod nhw’n cynnig llawer iawn mwy na chwrw yn unig.
“Dydan ni ddim dim ond yn gwerthu’r cwrw,” meddai.
“Rydym yn gwerthu’r adeilad.
“Os ydach chi’n dod mewn i’r Black Boy, dydych chi ddim dim ond yn prynu cwrw, rydych yn prynu amser yn y Black Boy, ac wrth gwrs mae yna gost i hwnnw.
“Mae yna gost i’r staff ddod a’r cwrw atoch chi neu syrfio chi, mae yna gost o gadw’r lle yn gynnes, mae yna gost o drwsio a chadw safon yr adeilad yna.”
Archfarchnadoedd yn lladd tafarndai?
Mae John Evans yn cytuno â’r mesur gafodd ei gyhoeddi sy’n golygu y bydd y dreth ar alcohol 11c yn uwch mewn archfarchnadoedd na thafarndai, ac mae’n dweud y dylai hynny ddigwydd yng Nghymru hefyd.
Bellach, mae prisiau wedi codi gormod i bobol brynu cwrw i fynd adref efo nhw, meddai.
Gan fod archfarchnadoedd yn gwerthu gymaint o gynnyrch eraill, dydy o ddim yn gweld y newid yn y dreth yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw.
“Rwy’n meddwl ei fod yn syniad da, oherwydd rydym wedi bod mewn sefyllfa ers blynyddoedd lle mae’r archfarchnadoedd yn gwerthu cwrw ar loss leader, jysd i gael pobol mewn,” meddai.
“Wrth gwrs, mae nhw’n meddwl bod tafarndai yn gwneud ffortiwn ohono fo, ynde.
“Rwy’ ddigon hen i gofio pan oedd pobol yn prynu cwrw i fynd adref o dafarndai.
“Roedd ein prisiau ni yn debyg iawn i archfarchnadoedd.
“Heddiw, os dw i’n prynu caniau gan y bragdy, gan y lori, rydym yn talu ddwywaith faint bysan ni yn gallu talu mewn archfarchnad.
“Felly mae yna rywbeth yn anghywir.
“Mae archfarchnadoedd yn gwerthu diod yr un fath ag yr ydan ni’n gwerthu bwyd yn fan hyn yn y bar.
“Mewn archfarchnadoedd, mae gynnon nhw lawer mwy o bethau mae nhw’n gwerthu na dim ond cwrw.
“Dydw i ddim yn gweld o’n gwneud dim tamaid o wahaniaeth i archfarchnadoedd o gwbl.
“Mae nhw’n colli arian wrth werthu cwrw, y rhan fwyaf ohonyn nhw, rŵan.
“Dim ond rhywbeth i gael chi yna ydy o.
“Dydych chi ddim yn mynd i brynu bwyd i fwyta adref yn y Black Boy, nac’dach?
“Ond rydach chi’n mynd i wneud mewn archfarchnad.”