Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Mawrth 16) y bydd taliadau ’diolch’ i bobol sy’n cynnig llety i westeion o Wcráin yn codi i £500 y mis o fis Ebrill.
Mae cyllideb Llywodraeth Cymru, a gafodd ei phasio yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf, yn amlinellu buddsoddiadau gwerth £40m i gefnogi pobol o Wcráin sy’n ymgartrefu yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Un o’r ffyrdd y bydd y £40m yn cael ei wario yw drwy neilltuo £2.5m i alluogi awdurdodau lleol i gynyddu’r taliadau ‘diolch’ o £350 y mis i £500 y mis.
Dywed Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, fod gwneud hyn yn cydnabod “maint eu caredigrwydd”, yn ogystal â’r effaith mae’r argyfwng costau byw yn ei chael ar letywyr.
Mae’r ‘Tocyn Croeso’, sy’n rhoi mynediad fisa i drafnidiaeth gyhoeddus i Wcreiniaid am chwe mis, hefyd yn cael ei ymestyn i’r flwyddyn ariannol nesaf.
Canolbwyntio ar lety tymor hir
Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio ar helpu gwesteion o Wcráin i symud i lety tymor hir.
Mae bron 1,000 o bobol ddaeth i aros gydag uwch-noddwr eisoes wedi ymgartrefu yng Nghymru, gyda thros 500 yn dod o hyd i lety amgen yn rhannau eraill y Deyrnas Unedig.
Fodd bynnag, bydd cymorth ar gyfer pobol sy’n aros yn eu llety cychwynnol yn parhau, a bydd eu costau cofleidiol yn cael eu talu.
Bydd y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro gwerth £89m, gafodd ei chyhoeddi y llynedd, yn cynyddu llety tymor hir o ansawdd uchel i helpu pawb yng Nghymru mae angen cartref arnyn nhw.
Y bwriad yw darparu dros 1,300 o gartrefi ychwanegol yn ystod y 18 mis nesaf.
Bydd cymorth ariannol gwerth £2m hefyd yn cael ei ddarparu i helpu pobol i symud ymlaen, gan roi cymorth i awdurdodau lleol i helpu Wcreiniaid i ddod o hyd i lety mwy hirdymor, ac i ddarparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer achosion mwy cymhleth.
Bydd gan gynghorau hyblygrwydd ynghylch sut i ddefnyddio’r arian fesul achos, gan adlewyrchu mai nhw sy’n gwybod yr anghenion lleol orau.
Mae hyn yn ychwanegol at yr ychydig o dan £2m fydd ar gael ar ffurf cronfa er mwyn i gynghorau liniaru pwysau lleol fel addysg, gwersi iaith a rhaglenni cyflogadwyedd yn ôl eu disgresiwn, i greu rhagor o annibyniaeth bersonol ac i helpu pobol i ailymgartrefu.
‘Helpu am gyhyd ag y mae hi eisiau aros gyda ni’
Un sydd wedi croesawu’r newyddion yw Hollie Webster.
Mae hi a’i gŵr yn cynnig llety i westai o Wcráin o’r enw Lydiia, ynghyd â’i dwy gath, yn eu cartref yng Nghaergybi.
“Mae fy ngŵr a finnau yn ymwybodol o’r amgylchedd a byddwn yn gwneud pob ymdrech i gadw llygad ar y mesurydd clyfar,” meddai.
“Er na welon ni ein biliau’n codi pan gyrhaeddodd Lydiia y llynedd, mae’r argyfwng costau byw bellach yn cael effaith.
“Felly mae’n wych gwybod bod swm y cymorth a roddir i letywyr fel ni yn codi.
“Bydd y £150 ychwanegol y mis yn ein helpu i liniaru’r costau uwch hynny, ac yn rhoi rhwyd ddiogelwch cyfforddus inni fel y gallwn ni helpu Lydiia am gyhyd ag y mae hi eisiau aros gyda ni.”
‘Croeso cynhwysol’ i barhau
“Mae pobol o bob cwr o Gymru wedi cynnig helpu, ac wedi dangos trugaredd gwirioneddol ac wedi bod ar gael i helpu teuluoedd y bu rhaid iddynt adael eu cartrefu,” meddai Jane Hutt.
“Rwyf mor falch o’r noddfa rydyn ni’n ei darparu, ac mae llawer o’n gwesteion wedi dweud wrthon ni pa mor ddiolchgar ydyn nhw am y cymorth mae Cymru wedi’i gynnig.
“Nawr, wrth i ryfel Putin barhau, yn anffodus, rhaid inni sicrhau bod ein gwesteion yn gallu dod o hyd i lety tymor hwy.
“Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n bwrw ymlaen â’r gwaith o symud ein gwesteion ymlaen o’n llety cychwynnol yn raddol.
“Er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dewis torri’r cyllid hanfodol sydd ei angen ar awdurdodau lleol i lefelau sy’n is o lawer na’r lefel y gellir eu rheoli, rydym yn benderfynol o gefnogi cynghorau i helpu pawb yng Nghymru y mae angen cartref arnyn nhw.
“Rydyn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol a phartneriaid i gynyddu capasiti ar gyfer opsiynau llety ansawdd uchel, gan gynnwys helpu rhagor o bobl i gynnig llety.
“Bydd y rhai sy’n ceisio diogelwch yn parhau i gael croeso cynhwysol yma.”