Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi lladd ar Lywodraeth Lafur Cymru tros “ragolygon llwm i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru”.
Yn ôl y baromedr twristiaeth diweddaraf, roedd nifer yr ymwelwyr ddaeth i Gymru yn ystod 2022 yn dal yn is na niferoedd cyfatebol yn y blynyddoedd cyn y pandemig Covid-19.
Dywed y Ceidwadwyr Cymreig fod hyder yn y farchnad yn is nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, gyda 7% yn llai o fusnesau’n disgwyl cynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac mewn busnesau sy’n methu llenwi’r rhan fwyaf o’u capasiti.
‘Dim ond gwaethygu all y sefyllfa’
“Mae’r rhagolygon ar gyfer twristiaeth yng Nghymru, yn ôl y data diweddaraf, yn llwm,” meddai Tom Giffard, llefarydd twristiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae disgwyliadau’r farchnad ar gyfer y sector yn is yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, er bod Cymru eisoes yn ei chael hi’n anodd cyrraedd lefelau ôl traed cyn y pandemig.
“Yr hyn sy’n waeth yw mai dim ond gwaethygu all y sefyllfa, o ystyried cynllun y Llywodraeth Lafur i roi treth dwristiaeth ar y diwydiant yma yng Nghymru, a digalonni llety hunanarlwyo bob cyfle.
“Mae dirfawr angen llywodraeth gefnogol ym Mae Caerdydd ar y diwydiant twristiaeth sy’n gweithio tuag at gryfhau safle Cymru fel cyrchfan deniadol, ond mae’n amlwg nad ydyn ni’n cael hynny gan Lafur.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae’r Baromedr yn dangos mai effaith y dewisiadau economaidd bwriadol a gymerwyd gan Lywodraethau y Deyrnas Unedig sy’n cael yr effaith negyddol fwyaf ar dwristiaeth Cymru ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae hyn yn cynnwys prisiau ynni uchel, anawsterau recriwtio staff oherwydd y math o Brexit y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dewis a’r argyfwng costau byw sy’n wynebu cymaint o deuluoedd ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
“Er gwaethaf hynny, mae’r Baromedr yn dangos bod 64% o fusnesau naill ai wedi cael yr un faint neu fwy o gwsmeriaid o’i gymharu â’r lefelau cyn y pandemig.
“Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant i sicrhau twf cynaliadwy yn y blynyddoedd i ddod.
“Fel y gŵyr y Ceidwadwyr Cymreig, does dim bwriad gyda ni i osod ardoll i ymwelwyr.
“O dan ein cynlluniau, bydd awdurdodau lleol yn gallu dewis cyflwyno ardoll, yn seiliedig ar anghenion eu hardaloedd.
“Byddai ardoll yn cynhyrchu refeniw newydd a allai gael ei ddefnyddio i ddatblygu gwasanaethau a seilwaith lleol a gwarchod yr asedau naturiol sy’n denu ymwelwyr i gyrchfannau ar draws Cymru.
“Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd, gyda refeniw yn cael ei ddefnyddio er budd cymunedau lleol, ymwelwyr a busnesau.”