Mae disgwyl i Steve Barclay, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, gyhoeddi cynnig cyflog ffurfiol i undebau sy’n ymwneud â streiciau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr, gan gynnwys taliad untro o hyd at 6% ar gyfer eleni.

Mae golwg360 yn deall y bydd y cynnig yn cynnwys taliad untro o 6% ar gyfer eleni, ac yna codiad cyflog parhaol o tua 5% ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod.

Daw’r cynnig hwn i nyrsys, gweithwyr ambiwlans, derbynwyr galwadau 999 a staff iechyd eraill ar ôl i’r Llywodraeth ddweud yn wreiddiol na allen nhw fynd y tu hwnt i godiad o 3.5%.

Byddai’r taliad ar gyfer eleni yn cael ei rannu’n ddau ran – taliad 2% untro ac ail “fonws adennill Covid” gwerth 4%.

Dywedodd Jeremy Hunt, Canghellor San Steffan, yn ei ddatganiad Cyllideb mai “chwyddiant uchel yw gwraidd y streiciau rydym wedi’u gweld yn ystod y misoedd diwethaf”.

“Byddwn yn parhau i weithio’n galed i ddatrys yr anghydfodau hyn ond dim ond mewn ffordd sydd ddim yn hybu chwyddiant,” meddai.

Byddai’n rhaid i aelodau’r undebau dan sylw sy’n cynrychioli’r staff gymeradwyo unrhyw gynnig mewn ymgynghoriad cyn gallu atal y streiciau’n barhaol.

Beth yw’r sefyllfa yng Nghymru?

Yn gynharach fis yma, fe ddaeth y newyddion y bydd gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru sydd wedi bod yn streicio dros gyflog yn derbyn codiad y cyflog ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er bod rhai undebau wedi pleidleisio yn ei erbyn gydag anghydfod yn parhau.

Bydd gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn derbyn codiad cyflog ychwanegol o 3% ar gyfer 2022-23.

Mae’r cynnig yn cynnwys 3% ychwanegol, 1.5% cyfunol ac 1.5% anghyfunol ar ben y cynnydd gafodd ei dalu yn gynharach eleni, sy’n cyfateb i 7.6% ychwanegol ar fil cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae hyn yn golygu y bydd y cynnig cyflog yn cael ei gymhwyso i holl weithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, er bod Coleg Brenhinol y Nyrsys, GMB ac Unite sy’n cynrychioli gweithwyr ambiwlans wedi gwrthod y cynnig, ac yn parhau i fod mewn anghydfod.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod yn gyfyngedig o ran cynnig arian newydd oni bai bod cynnig cyflog uwch yn Lloegr.

Serch hynny, mae Plaid Cymru’n dweud y dylen nhw ddefnyddio’u pwerau i godi’r dreth incwm i helpu i godi cyflogau.

Lee Waters mewn dŵr poeth

Wrth i’r anghydfod barhau, cafodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru, ei ddal yn beirniadu undebau nyrsio.

Yn ôl y sôn, fe wnaeth o’r sylwadau mewn cyfarfod o’r Blaid Lafur yn Llanelli, lle disgrifiodd y Coleg Nyrsio Brenhinol fel un “hynod filwriaethus” a “phenderfynol o frwydro”.

Dywedodd hefyd nad ydyn nhw “yn wirioneddol barod i drafod”.

Cafodd y recordiad ei gyhoeddi’n gyntaf yn Herald.Wales.

“Roedd clywed yr hyn sy’n ymddangos fel gweinidog Llafur yn siarad am weithwyr undeb iechyd fel hyn yn sioc i lawer,” meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru.

“Mae’r rhain yn staff iechyd gweithgar ac ymroddedig.

“Nid yw hwn yn gorff ‘hynod o filwriaethus’ fel y mae’r gweinidog yn ei awgrymu – maen nhw’n cynrychioli gweithlu sydd wedi cael llond bol ac eisiau cytundeb cyflog teg.

“Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r nyrsys yn llwyr yn eu brwydr dros gyflog teg.

“Mae dweud eu bod yn ‘benderfynol o gael ymladd’ ac ’nad ydynt yn wirioneddol barod i drafod’ yn sarhaus yn y pen draw.

“Y peth olaf mae nyrsys eisiau ei wneud yw streicio, ac ers wythnosau ac wythnosau, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwrthod dod i’r bwrdd trafod.

“Mae’r dirprwy weinidog yn dweud bod yr anghydfodau cyflog yn ‘ofidus iawn i ni fel mudiad Llafur’ ond beth am y trallod i weithwyr iechyd sydd wedi wynebu blynyddoedd o doriadau termau real i’w cyflogau?”