Mae Cyngor Abertawe wedi canmol un o’u gweithwyr, y person cyntaf i fynd i mewn i weddillion tŷ i achub teulu ar ôl ffrwydrad yn Nhreforys ddydd Llun (Mawrth 13).

Brwydrodd Keith Morris drwy lwch a malurion i gyrraedd mam oedd yn sownd yn y rwbel, a’i thywys allan i achubwyr eraill.

Dychwelodd i’r hyn oedd ar ôl o’r adeilad i chwilio am ei mab, oedd mewn ystafell i fyny’r grisiau, ond yn ffodus roedd y bachgen wedi cael ei helpu gan eraill oedd wedi’i gyrraedd.

Yna trodd y goruchwyliwr priffyrdd ei sylw at achub ci’r teulu, ac ar ôl dod o hyd iddo gorfododd ei gaets ar agor tra roedd dyn arall yn tynnu’r anifail allan.

Dywed Keith Morris, sydd wedi gweithio mewn rolau amrywiol i Gyngor Abertawe dros y 27 mlynedd diwethaf, ei fod yn gweithredu ar “awtobeilot”.

Dywed Rob Stewart, arweinydd y Cyngor, fod Keith Morris a phawb arall fu’n rhan o’r achub ddydd Llun wedi dangos dewrder annychmygadwy.

Gweithredu ar ‘awtobeilot’

Roedd Keith Morris yn gyrru fan y Cyngor ychydig gannoedd o lathenni i ffwrdd o’r eiddo pan ddigwyddodd y ffrwydrad.

Dywedodd iddo glywed “ffrwydrad nerthol” a “theimlo tonnau’r sioc” cyn i falurion ddechrau disgyn o’i gwmpas gan rwystro’r ffordd o’i flaen.

“Tynnais i fyny y tu allan a neidio allan o fy fan ac roeddwn i’n gallu clywed gweiddi a sgrechian o’r tu mewn,” meddai.

Fe orfododd y drws yn agored i fynd i mewn i’r adeilad.

“Doedd dim byd ond llwch, dim ond llwch llwyd, ac wrth i mi fynd i mewn i’r tŷ doeddwn i ddim yn gallu gweld dim byd ond roeddwn i’n gallu ei chlywed yn sgrechian.

“Dechreuais dynnu byrddau a brics a phopeth i fyny ac yn y diwedd gwelais fraich fach yn dod allan o’r malurion.

“Fe wnes i ei helpu hi allan ond roedd hi’n gweiddi ‘mae fy mab i fyny’r grisiau’ ond pan edrychais i fyny doedd dim o’r llofft ar ôl.”

Aeth Keith Morris yn ôl i mewn i’r tŷ, a cheisio dringo’r hyn oedd ar ôl o’r grisiau, ond sylweddolodd y gallai gwympo.

Roedd y bachgen eisoes wedi cael cymorth gan eraill, ond aeth Keith Morris yn ôl i mewn i’r tŷ am y trydydd tro i chwilio am gi’r teulu.

“Fe es i nôl i mewn oherwydd ei bod hi wedi dweud am y ci bach Alsatian ac erbyn hyn yn bendant roedd un person gyda fi, un arall o bosib,” meddai.

“Roedden ni’n taflu pethau allan o’r ffordd a chlywais lais yn dweud ‘dyma fe, mae e mewn caets’.

“Cafodd y caets ei gladdu, felly fe wnes i ei orfodi ar agor a thynnodd y ci allan.”

Cydymdeimlad

Wrth fyfyrio ar y digwyddiad, estynnodd Keith Morris ei gydymdeimlad i deulu a ffrindiau’r dyn 68 oed fu farw mewn cartref cyfagos.

“Pan es i i mewn i’r tŷ am y tro cyntaf roeddwn i ar awtobeilot,” meddai.

“Wyddwn i ddim beth fyddwn i’n ei ddarganfod.

“Mae gen i bechod mawr drostyn nhw oherwydd maen nhw wedi cael eu gadael heb ddim – cafodd eu tŷ ei ddinistrio.

“Bryd hynny roeddwn i’n meddwl mai diwedd y teras oedd eu tŷ nhw, ond dywedwyd wrthyf yn ddiweddarach fod yna un cyfagos ond roedd hwnnw newydd fynd.”

Nos Fercher (Mawrth 15), fe gysylltodd aelod o’r teulu â Keith Morris i ddiolch iddo am yr hyn yr oedd wedi’i wneud.

“Roedd ei diolch hi i mi yn golygu’r byd i mi,” meddai.

‘Diolch’

“Roedd hwn yn ddigwyddiad dinistriol ac mae fy meddyliau yn aros gyda phawb yr effeithiwyd arnynt,” meddai Rob Stewart, arweinydd Cyngor Abertawe.

“Ers trasiedi dydd Llun rwyf wedi bod yn clywed am straeon am ddewrder aruthrol gan bobol oedd yn y fan a’r lle ar y pryd a hoffwn ddiolch i Keith ynghyd â phawb arall, gan gynnwys y gwasanaethau brys, a ymatebodd mor gyflym a dewr.

“Fel cyngor rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt a byddwn yn parhau i wneud hynny am gyhyd ag sydd angen.”