Mae dynes sy’n byw â chyflwr dyslecsia yn dweud ei bod hi’n ei chael hi’n haws ysgrifennu yn Gymraeg na Saesneg, ond ei bod hi’n fwy anodd fel rhywun sy’n siarad Cymraeg i gael diagnosis yn y lle cyntaf.
Mae’r ddynes, sydd eisiau aros yn ddienw, wedi bod yn siarad â golwg360 am y problemau mae hi’n ei chael wrth ysgrifennu ac am y diffyg adnoddau sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg â dyslecsia.
Ar ôl cael diagnosis, teimlai’r ddynes nad oedd yr adnoddau oedd ar gael gystal yn Gymraeg pan oedd hi yn y brifysgol.
Yn y byd gwaith, mae hi’n teimlo bod diffyg dealltwriaeth am y cyflwr.
Mae hi’n teimlo ei bod hi’n fwy anodd cael diagnosis yn Gymraeg nag yn Saesneg oherwydd bod y Gymraeg yn fwy ffonetig ac yn haws i’w hysgrifennu beth bynnag, ac felly nad yw’r cyflwr mor amlwg.
Adnoddau ysgrifenedig
Er ei bod hi’n ddiolchgar bod adnoddau ysgrifenedig Cymraeg ar gael, mae’n teimlo nad yw’r adnoddau ysgrifenedig cystal â’r rhai Saesneg.
“Mae yna lawer o adnoddau ysgrifenedig yn Saesneg felly galla’i wneud lawer o sgwennu yn Saesneg,” meddai wrth golwg360.
“Mae yna lawer o raglenni spell check.
“Efo’r Gymraeg, maen nhw’n anoddach i’w install-io.
“Maen nhw’n llai cyffredin na’r systemau Saesneg.
“Rwy’n gweld bo nhw ddim yn gweithio mor dda â rhai Saesneg.
“Yn amlwg, maen nhw’n gweithio gorau â phosib, a chwarae teg i’r bobol wnaeth greu nhw, am greu nhw.
“Ond dydyn nhw ddim cystal â’r adnoddau sydd ar gael yn Saesneg.
“Rwy’n teimlo bod hwnna wedi cnocio fy hyder lot dros y blynyddoedd, wrth drio gwneud gwaith a swyddi a phan wnes i Masters hefyd.”
‘Nawddoglyd’
Cafodd ddiagnosis o ddyslecsia a dyspracsia yn y brifysgol, a theimla fod y gefnogaeth a’r adnoddau wedi’u creu ar gyfer pobol oedd yn ysgrifennu yn Saesneg yn hytrach na’r Gymraeg.
“Yn y brifysgol, roedd yn stori hir [o ran] sut ges i ddiagnosis,” meddai.
“Roeddwn eisiau gwneud fy nghwrs Athroniaeth yn Gymraeg, oherwydd bod gennyf hawl i wneud hynna.
“Roedden nhw’n eithaf nawddoglyd, yn meddwl bo fi methu gwneud o’n Saesneg.
“Gwnaethon nhw yrru fi at y Ganolfan Sgwennu yn y brifysgol dros 10 mlynedd yn ôl i wella fy Saesneg, lle mae myfyriwr rhyngwladol yn mynd.
“Beth wnaethon nhw ffeindio oedd bod fy Saesneg i’n iawn, ond fy mod yn ddyslecsig.
“Gwnaethon nhw yrru fi am asesiad a ffeindion nhw fy mod efo dyslecsia a dyspracsia eithaf mawr.
“Gwnaethon nhw drefnu i mi gael cefnogaeth.
“Roeddwn yn cael amser ychwanegol mewn arholiadau, a chwrdd â thiwtor bob wythnos.
“Oherwydd fy mod i angen o’n Gymraeg, ffeindion nhw diwtor i mi oedd yn siarad Cymraeg.
“Roedd hi efo’r cymwysterau i fod yn diwtor dyslecsia.
“Roedd hi efo iaith lafar, ond ddim efo unrhyw fath o hyfforddiant mewn dysgu dyslecsia yn yr iaith Gymraeg.
“Doedd hi methu hyd yn oed sgwennu yn Gymraeg go iawn, doedd hi methu sillafu yn Gymraeg.
“Roedd hi’n cael ei thalu bob wythnos i gael sesiynau efo fi.
“Roedd yn amlwg bod y sefyllfa yn hollol useless.
“Ges i dri neu bedwar tiwtor gwahanol, rhai ohonyn nhw’n fyfyrwyr ôl-radd efo dim hyfforddiant mewn dyslecsia.
“Roedd o fel bod dim byd wedi cael ei baratoi i siaradwyr Cymraeg oedd angen help efo dyslecsia.
“Roedd yr ymarferion i gyd wedi gêrio tuag at siaradwyr iaith Saesneg, a dyslecsia yn yr iaith Saesneg.
“Wnes i deimlo fy mod wedi gwastraffu llawer o amser yn mynd i sesiynau tiwtora oedd ddim yn addas.
“Erbyn hyn, roeddwn wedi newid fy ngradd i fod jysd yn y Gymraeg, ym mhwnc y Gymraeg.
“Roedd yn rhannol oherwydd bod gymaint o struggles wedi bod yn cael pethau yn Gymraeg.
“Dyna ydy fy mhrofiad efo dyslecsia.”
Y byd gwaith a chael diagnosis
Ar ben hynny, siom oedd ymateb rhai rheolwyr yn y byd gwaith wedyn.
“Rwyf wedi cael un boss yn mynd trwy fy ngwaith sgwennu a rhoi marciau coch arno fo fel athrawes ac yn y diwedd rhoi llinell fawr drwyddo fo a rhoi o’n ôl i fi,” meddai.
“Roeddwn wedi dweud wrtha hi yn y dechrau fod gennyf ddyslecsia ond roedd hi’n ofnadwy o gas a ddim yn deall.
“Roeddwn wedi dweud bod gennyf anabledd dysgu ond doedd dim dealltwriaeth am y peth.
“Rwy’n teimlo, efo dyslecsia, mae pobol yn disgwyl just get on with it, manage-io i magically ymdopi â gwneud rhywbeth ti efo anabledd yn dysgu, ti methu gwneud.”
Roedd hi’n ei chael hi’n fwy o sialens sillafu yn Saesneg nag yn Gymraeg oherwydd bod Cymraeg yn fwy ffonetig, a phan ddaeth yr amser i gael diagnosis teimlai bod ysgrifennu yn y Gymraeg, oherwydd ei bod yn iaith ffonetig, wedi’i gwneud hi’n fwy anodd i ganfod dyslecsia.
“Roeddwn yn amlwg yn ddyslecsig yn yr ysgol,” meddai.
“Roeddwn efo sillafu ofnadwy ond roedd bob dim arall o safon uchel.
“Wnaethon nhw ddim pigo fyny arno fo yn yr ysgol.
“Yn ddiddorol, roedd fy sillafu yn Saesneg llawer gwaeth na fy sillafu yn Gymraeg.
“Dwn i’m os mae ymchwil wedi cael ei wneud ar hyn, ond oherwydd bod Cymraeg yn ffonetig roedd yn haws i mi weithio allan sut oedd sillafu pethau.
“Efo dyslecsia, mae’r llythrennau wedi jymblo fyny, ond pan dwi’n darllen drosto fo weithiau rwy’n gallu ei gywiro.
“Efo Saesneg, rwy’n ffeindio fo’n anoddach.”