Mae’r Gymdeithas Strôc yn galw ar bobol i lofnodi deiseb wrth iddyn nhw geisio achub gwasanaethau adferiad strôc yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Daw hyn wrth i’r gwasanaethau ar gyfer siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro wynebu dyfodol ansicr, a rhybudd gan y Gymdeithas Strôc y gallai cleifion gael eu hamddifadu.
Mae’r Gymdeithas Strôc yn neilltuol o bryderus y bydd y cyllid yn 2023-24 ar gyfer y gwasanaeth Bywyd Ar Ôl Strôc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annhebygol o ddarparu gwasanaeth o ansawdd a theg ar gyfer y goroeswyr strôc hynny sydd fwyaf agored i niwed yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Bu Gwasanaeth Bywyd Ar Ôl Strôc y Gymdeithas Strôc yn cynorthwyo goroeswyr strôc yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda am fwy na degawd.
Mae’r gwasanaeth yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobol ar ôl iddyn nhw adael yr ysbyty, gan eu helpu nhw a’u hanwyliaid i bennu eu nodau eu hunain ar gyfer gwella, rheoli’u cyflwr a mynd yn fwy annibynnol.
Yn 2022, darparodd y Gymdeithas Strôc gymorth arbenigol sy’n canolbwyntio ar unigolion i fwy na 250 o oroeswyr strôc a’u gofalwyr yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, gan leihau’r nifer sy’n dychwelyd i’r ysbyty, a chynorthwyo anghenion iechyd meddwl, ac yn anad dim, yn cynorthwyo annibyniaeth goroeswyr strôc.
‘Dadflaenoriaethu gwasanaethau strôc’
“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn dad-flaenoriaethu gwasanaethau strôc am flynyddoedd,” meddai Katie Chapelle, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru y Gymdeithas Strôc.
“Ni fu cynnydd ar gyfer chwyddiant yn ein cyllid ers dros chwe blynedd, a arweiniodd at doriad mewn termau real i wasanaethau cymorth strôc.
“Yn hanesyddol, darparwyd rhan o’r gwasanaeth gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin, ond maent yn awr wedi tynnu’r arian hwn yn ôl oherwydd newidiadau yn y ffordd y maent yn talu am wasanaethau ataliol yn y gymuned.
“Gyda’r cymorth hwn yn dod i ben, mae arnom eisiau gweithio’n agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gynllunio gwasanaeth effeithiol ac sydd o ansawdd sy’n parhau i gynorthwyo goroeswyr strôc a’u hanwyliaid i ailadeiladu bywyd ar ôl strôc.
“Anogwn y Bwrdd Iechyd i ailystyried eu tendr sydd ar y gweill, ac i gynnwys y cyllid digonol ychwanegol sydd ei angen i gyflenwi gwasanaeth adferiad strôc cyfartal ledled y tair ardal i gyd ar gyfer goroeswyr strôc yn y blynyddoedd i ddod.
“Mae elusennau’n anhepgor i’n cymdeithas allu gweithredu’n iach, a dylid eu derbyn fel partner yn y system iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig ar adegau o straen, yn hytrach nag eu gweld fel “dymunol i’w cael”.
“Golyga hyn roi cymorth i elusennau gyda chyllid cyfnod hir, a’u hintegreiddio i brosesau llunio penderfyniadau.
“Yn aml, elusennau sydd yn y sefyllfa orau i ymgysylltu ag ystod eang o bobl, yn enwedig y rheiny prin y cânt eu clywed.
“Yn y Gymdeithas Strôc, sicrhawn fod gan oroeswyr strôc lais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
“Os methir â chydnabod, parchu a sylweddoli gwir werth y gwaith y mae elusennau yn ei wneud, mae yna risg o golli darpariaeth hanfodol a’r ymagwedd o ganolbwyntio ar yr unigolyn y mae elusennau’n ei roi i’n cymdeithas.”
Beth yw’r sefyllfa yn y tair sir?
Mae yna bron i 10,000 o oroeswyr strôc yn byw yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Heb y gwasanaeth hanfodol hwn, mae goroeswyr strôc mewn perygl o deimlo bod pobol wedi cefnu arnyn nhw ar ôl iddyn nhw adael yr ysbyty, gan roi rhagor o bwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd ar adeg o straen enfawr.
Mae 47% o oroeswyr strôc yn y bwrdd iechyd wedi’u cofrestru â meddygfeydd Meddygon Teulu sydd yn ardal Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin.
Mae 20% arall yn byw yng Ngheredigion, a 33% yn Sir Benfro, sy’n amlygu’r angen am wasanaeth yn y tair ardal i gyd.
Cafodd Dave Jones, tad i ddau o blant o Rydaman, strôc yn 2017 yn 36 mlwydd oed.
Roedd yn ifanc, yn heini ac yn iach a doedd e erioed wedi disgwyl cael strôc.
“Pan wnes i ddod allan o’r ysbyty, roedd gen i olwg dwbl, doedd fy mraich dde a fy nghoes dde ddim yn gweithio,” meddai.
“Allwn i ddim siarad yn iawn.
“Cyrhaeddais i’r sefyllfa lle nad oeddwn i eisiau bod yma; mewn gwirionedd, fe wnes i gyrraedd y sefyllfa o ystyried rhoi diwedd ar y cyfan.
“Mae’r gefnogaeth rwy’ wedi’i derbyn gan y Gymdeithas Strôc wedi bod yn amhrisiadwy.
“Mae fy nghydgysylltydd wedi bod yn gymorth mawr imi.
“Mae hi bob amser yno pryd bynnag y bydd ei angen arna i.
“Fyddwn i byth wedi fy nghael fy hun i le rydw i hebddi.”
Grŵp cymorth i ddynion
Mae Dave Jones yn rhan o grŵp cymheiriaid i ddynion ifainc yng Nghaerfyrddin.
“Rydym yn helpu’n gilydd drwyddo ac yn cyfarfod ac yn siarad am ein profiad, mae’n gymorth aruthrol i mi,” meddai.
“Heb y cyfle a’r cymorth i sefydlu’r grŵp hwn gan y Gymdeithas Strôc, pwy a ŵyr lle y byddem i gyd.
“Mae wedi bod yn wir achubiaeth i lawer ohonom.”
Wrth iddo fe barhau i ailadeiladu’i fywyd, mae wedi dod yn gydgysylltydd cymorth y Gymdeithas Strôc yn ddiweddar.
“Mae’n sefydliad bendigedig sydd wedi fy helpu cymaint ac mae arnaf eisiau rhoi yn ôl a helpu eraill, gan fy mod yn gwybod drosof fy hun mor bwysig yw’r gwasanaeth Bywyd Ar Ôl Strôc i oroeswyr strôc.”
‘Cymorth hanfodol er gwaethaf cyllideb sy’n crebachu’
“A minnau wedi cyfarfod â’r Gymdeithas Strôc yn ddiweddar, rwyf yn llwyr ymwybodol o’r gwasanaeth ardderchog y maent yn ei ddarparu i oroeswyr strôc ledled fy etholaeth,” meddai Adam Price, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
“Er gwaethaf cyllideb sy’n crebachu a phwysau sylweddol, mae’r gwasanaeth Bywyd Ar Ôl Strôc wedi parhau i ddarparu cymorth hanfodol ledled ardal Hywel Dda.
“Mae’n hanfodol nad yw gwasanaethau adferiad strôc yn cael eu hepgor, ac mae’n rhaid inni wneud pa beth bynnag y gallwn i arbed ein gwasanaeth adferiad strôc.
“Byddwn yn annog aelodau’r cyhoedd i lofnodi’r ddeiseb hon i ddangos yn union cymaint o gefnogaeth sydd yna i’r gwasanaeth Bywyd Ar Ôl Strôc yn Sir Gaerfyrddin.”
Beth yw strôc, a sut mae cefnogi goroeswyr?
Pan fo strôc yn taro, mae rhan o’r ymennydd a rhan o’r unigolyn ei hun yn cau.
Mae adferiad yn anodd, ond gyda’r cymorth arbenigol iawn, dewrder a phenderfyniad, gall yr ymennydd addasu.
Mae’r Gymdeithas Strôc ar gael i gynorthwyo pobol i ailadeiladu eu bywydau ar ôl strôc.
Mae’r Gymdeithas Strôc wedi cyflenwi gwasanaeth adferiad strôc ledled pob un o’r tair ardal ym mwrdd iechyd Hywel Dda ers dros ddegawd.
Maen nhw’n cynorthwyo goroeswyr strôc, eu teuluoedd, a gofalwyr i ailadeiladu eu bywydau ar ôl strôc.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i bobol lofnodi’r ddeiseb.