Yn ôl adroddiad newydd sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Mawrth 17), dydy cleifion ddim yn cael gofal diogel yn gyson yn Adran Achosion Brys Ysbyty Cyffredinol Glangwili, er gwaethaf ymdrechion y staff.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn tynnu sylw at yr heriau mae staff yr adran yn eu hwynebu.

Nododd yr adroddiad fod y staff yn gweithio’n galed iawn i roi gofal o safon dda i gleifion, a hynny ar adeg pan oedd y gwasanaeth o dan gryn bwysau.

Fodd bynnag, mae angen gwneud nifer o welliannau ac mae angen i’r bwrdd iechyd gymryd camau mewn perthynas â rhai ohonyn nhw ar unwaith.

Heriau gyda llif cleifion drwy’r ysbyty

Cafodd arolygiad dirybudd ei gwblhau o’r adran achosion brys ar dri diwrnod dilynol fis Rhagfyr y llynedd.

Yn ystod yr arolygiad ar y safle, nododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru feysydd lle’r oedd y pwysau a’r heriau yn yr adran, a’r ysbyty yn fwy cyffredinol, yn arwain at risg gynyddol i gleifion.

Pan gafodd cleifion a gofalwyr eu holi, dywedon nhw eu bod nhw’n fodlon gyda’r gwasanaeth roedden nhw wedi’i gael ar y cyfan, a gwelodd yr arolygwyr y staff yn trin cleifion â pharch a chwrteisi.

Fodd bynnag, mynegodd cleifion eu rhwystredigaeth am yr amseroedd aros a’r diffyg gwybodaeth am eu gofal a’u triniaeth.

Roedd yr heriau sylweddol o ran sicrhau llif cleifion drwy’r ysbyty yn golygu bod yn rhaid i gleifion aros yn yr uned achosion brys am gyfnodau estynedig.

Roedd gorlenwi a phrinder cyfleusterau ymolchi a thoiledau yn yr uned, a chleifion yn aros mewn mannau anaddas yn yr uned – gan gynnwys y tu allan i giwbiclau, lle nad oedd unrhyw lenni preifatrwydd na sgriniau i’w gwahanu oddi wrth gleifion eraill.

Roedd hyn yn cael effaith negyddol ar allu’r staff i sicrhau preifatrwydd ac urddas y cleifion ac i ddilyn gweithdrefnau atal a rheoli heintiau.

Er bod Uned Gofal ac Asesu Pediatrig yno, roedd oedi cyn bod plant yn cael eu gweld.

Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i’r plant aros yn y brif ardal aros weithiau, oedd yn anaddas iddyn nhw.

Dywedodd rhai cleifion wrth yr arolygwyr eu bod nhw wedi gorfod cysgu ar gadeiriau neu ar lawr am gyfnodau hir.

Trafferthion gyda brysbennu

Er bod trefniadau digonol ar waith i asesu a monitro cleifion oedd yn cyrraedd mewn ambiwlans, doedd dim sicrwydd bob amser fod cleifion oedd yn dod i’r uned eu hunain yn cael eu brysbennu mewn modd amserol.

Doedd dim sicrwydd chwaith fod cleifion yn yr ystafell aros yn cael eu hailasesu’n rheolaidd, gan nad oedd tystiolaeth bob amser fod y nyrs frysbennu wedi adolygu eu cofnodion.

Fodd bynnag, roedd cofnodion cleifion yn hawdd eu deall, a nodiadau wedi’u hysgrifennu â llaw yn ddarllenadwy ac wedi’u trefnu’n rhesymegol.

Risg o fynediad at feddyginiaethau

Yn gyffredinol, roedd meddyginiaethau yn cael eu rheoli’n ddiogel yn yr uned, ond nododd yr arolygwyr nad oedd y stordai wedi’u cloi er mwyn atal mynediad anawdurdodedig.

Gallai hyn fod wedi achosi risg y byddai cleifion neu unigolion eraill yn cael mynediad iddyn nhw.

Rheoli offer

Doedd gwiriadau trolïau cyfarpar dadebru ddim yn cael eu cofnodi bob amser, ac felly doedd dim sicrwydd bod y cyfarpar angenrheidiol yn barod ac ar gael i’w ddefnyddio pe bai argyfwng.

Staff

Roedd strwythur rheoli addas ar waith ynghyd â llinellau adrodd clir, ac roedd y staff yn gadarnhaol ar y cyfan ynglŷn â’u rheolwyr llinell uniongyrchol.

Dywedodd y staff fod y bwrdd iechyd yn cymryd camau cadarnhaol o ran iechyd a llesiant.

Fodd bynnag, nid oedd y staff yn fodlon â’r ffordd caiff materion maen nhw’n eu huwchgyfeirio eu trin, na chwaith â lefelau staffio yn yr uned.

Mae’r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy’n cynnwys camau gweithredu manwl o ran sut y caiff gwelliannau eu gwneud yn yr adran achosion brys.

‘Anodd ateb y galw gyda’r adnoddau sydd ar gael’

“Mae’r pwysau ar wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn parhau i fod yn uchel iawn ac fel mewn arolygiadau eraill o Adrannau Achosion Brys rydym wedi’u cynnal, gwelsom dystiolaeth unwaith eto o wasanaeth sy’n ei chael hi’n anodd ateb y galw a sicrhau diogelwch cleifion gyda’r adnoddau sydd ar gael,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Rwy’n cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff yn y gwasanaeth hwn ac mae ein hadroddiad yn rhoi cyfle i dynnu sylw at yr heriau y mae cleifion a staff yn y gwasanaeth hwn yn eu hwynebu bob dydd.

“Bydd yr argymhellion penodol gennym, sy’n nodi camau gweithredu i’w cymryd, yn helpu’r bwrdd iechyd i leihau risgiau i gleifion a staff tra bydd yn parhau i wynebu’r cyfnod heriol hwn.

“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.”