“Mae angen cenhadaeth wirioneddol genedlaethol er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhywedd”, yn ôl Lucy Reynolds, wrth iddi gymryd y llyw yn yr elusen cydraddoldeb rhywedd Chwarae Teg.
Fel Prif Weithredwr newydd Chwarae Teg, ac ar ôl gweithio yn y sector cam-drin domestig, mae gennyf ymrwymiad clir i sicrhau cydraddoldeb rhywedd. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymwybyddiaeth bendant mai cyfrifoldeb y llawer, nid yr ychydig, yw cyflawni ein nodau – gweithredu ar y cyd sy’n ysgogi newid.
Dyna pam, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod hyn, rwy’n tynnu sylw at yr angen i gael cenhadaeth wirioneddol genedlaethol lle mae’r llywodraeth, busnes ac unigolion i gyd yn chwarae rhan weithredol wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.
Does dim bwled arian, nac un ateb sy’n gweddu i bawb i broblem anghydraddoldeb. Mae’n rhaid i bob un ohonom chwarae gymaint o ran ag y gallwn ni er mwyn mynd i’r afael â’r broblem. Boed yn wneuthurwr polisi, yn wleidydd, yn gyflogwr neu’n unigolyn, gall bob un ohonom wneud rhywbeth i weithio tuag at gyflymu’r newid.
Mae deall cyfiawnder a’r gwahaniaeth y gall hyn ei wneud yn hanfodol. Dydy rhoi’r un cyfle i eraill ddim yn golygu bod pawb yn cael canlyniadau cyfartal yn y pen draw gan nad ydym i gyd yn dechrau o’r un lle. Trwy roi mwy o gefnogaeth i’r rhai dan yr anfantais fwyaf, rydym yn annog canlyniadau cyfartal – sef ystyr #CofleidioCyfiawnder, thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni.
Gwneir hyn yn glir yn adroddiad Cyflwr y Genedl Chwarae Teg, a gyhoeddwyd fis diwethaf. Mae’n dangos petai’r newid yn dal i ddigwydd ar yr un cyflymder, y bydd menywod yng Nghymru yn gorfod aros degawdau am wir gydraddoldeb. Fodd bynnag, amlygodd y cyhoeddiad y ffaith y bydd rhaid i fenywod o leiafrif ethnig, sy’n anabl, sy’n LHDTC+ neu ar incwm isel, aros hyd yn oed yn hirach – dim ond am eu bod mewn sefyllfa lai teg i ddechrau.
Mae’r adroddiad felly’n argymell, er mwyn creu Cymru sy’n fwy cyfartal, bod angen canolbwyntio ar y rhai mwyaf ymylol yn gyntaf; y menywod sy’n wynebu’r rhwystrau a’r caledi mwyaf.
Mae Cyflwr y Genedl yn ystyried problem croestoriadedd sy’n golygu deall sut y gall nodweddion fel rhywedd, hil, rhywioldeb, anabledd, dosbarth, oedran a ffydd ryngweithio gan yn aml achosi profiadau niferus o anfantais. Er enghraifft, mae menywod yn dal i fod yn llai tebygol o fod mewn gwaith na dynion, yn fwy tebygol o fod allan o’r farchnad lafur oherwydd cyfrifoldebau gofalu, o fod yn ennill llai ac o gael eu heffeithio’n anghymesur gan yr argyfwng costau byw – ac i fenywod sydd â nodweddion gwarchodedig ychwanegol, mae’r canlyniadau hyn hyd yn oed yn waeth.
Felly mae gwir angen y ffocws ar gyfiawnder ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac rwy’n ei chroesawu’n fawr.