Mae Plaid Cymru’n galw am yr offer i herio’r anghyfiawnderau mae menywod yn eu hwynebu.

Daw eu datganiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched heddiw (dydd Mercher, Mawrth 8).

Eleni, neges yr ymgyrch yw “cofleidio cyfiawnder yn llawn”.

“Dylai Cymru ymdrechu bob amser i ddod yn genedl fwy caredig, teg a chyfartal – Cymru lle nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl,” meddai Sioned Williams, llefarydd cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau Plaid Cymru.

“Mae Plaid Cymru’n credu mai annibyniaeth yw’r unig ffordd y gallwn ni wireddu hyn gan mai dyma’r ffordd o adeiladu ein cenedl, ein gwasanaethau cyhoeddus a bywydau ein pobol, lleihau anghydraddoldeb a mynd i’r afael â phob math o anghyfiawnder.

“Tra ein bod ni’n rhan o’r Deyrnas an-Unedig anghyfartal hon, mae Plaid Cymru’n galw am yr offer fel y gallwn ni ddechrau ar y gwaith o drawsnewid economi Cymru a’n system gofal iechyd.

“Bydd hyn yn sylfaenol wrth drawsnewid y systemau y daw cynifer o’r anghyfiawnderau mae menywod yn eu hwynebu ohonyn nhw – gan greu cyfleoedd gwaith a hwyluso mynediad at gyflogaeth sy’n talu’n well ac sy’n llai peryglus, a dileu anghydraddoldebau yn ein gofal iechyd.”