Bydd gwobrau i ddathlu merched mewn busnes yng Nghymru yn cael eu cynnal am y trydydd tro eleni.
Mae Gwobrau Merched Mewn Busnes Llais Cymru, sef #LlaisAwards, yn fenter ddwyieithog sy’n dathlu llwyddiannau a gwaith caled merched mewn sawl maes dros y wlad.
Cafodd y gwobrau eu sefydlu gan Heulwen Davies, Cyfarwyddwr Llais Cymru, sef cwmni marchnata a chysylltiadau cyhoeddus o ochrau Machynlleth, yn 2021.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb am y tro cyntaf eleni, a hynny yn yr Egin yng Nghaerfyrddin ym mis Gorffennaf.
Roedd Heulwen Davies, sy’n byw ym mhentref Derwenlas ac yn rhedeg Llais Cymru o’r fan honno, yn arfer rhedeg cylchgrawn dwyieithog ar-lein i famau, Mam Cymru, ond unwaith lansiodd ei busnes ei hun doedd ganddi mo’r capasiti i barhau â’r cylchgrawn.
“Dw i’n un sydd wastad wedi bod yn angerddol dros gefnogi merched mewn cymaint o ffyrdd ag sy’n bosib,” meddai wrth golwg360.
“Doedd yna ddim gwobrau cenedlaethol i gydnabod merched mewn busnes yng Nghymru, a dim gwobrau dwyieithog i’w cael chwaith.
“Roeddwn i’n meddwl mai dyma’r ffordd i ddefnyddio Llais Cymru fel platfform i gefnogi merched mewn cyd-destun gwahanol.
“Mae yna gymaint o bobol yn ein hardal ni wedi symud mewn i’r ardal, mewnfudwyr, ceiswyr lloches wedi sefydlu busnesau, ac roeddwn i’n teimlo’i bod hi’n bwysig bod pob merch sy’n rhedeg busnes yng Nghymru – waeth lle maen nhw’n dod yn wreiddiol – yn gallu elwa a theimlo’n falch o fod yn rhan o’r gwobrau.”
Banc Datblygu Cymru ydy prif noddwr y gwobrau ers y dechrau, ac mae Llais Cymru yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth hwythau a’r Egin.
‘Hwb i ferched’
Mae’r enwebiadau yn agor heddiw (dydd Mercher, Mawrth 8), a gall unrhyw fenyw sy’n rhedeg busnes yng Nghymru enwebu ei hun am ddim, neu gall eraill enwebu merched, a bydd y rhestr fer a’r enillwyr yn seiliedig ar nifer yr enwebiadau.
Bydd pawb sy’n cael eu henwebu yn cael gwybod, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cyrraedd y rhestr fer.
“Mae’n rhoi gymaint o hwb iddyn nhw i wybod bod pobol yn meddwl gymaint ohonyn nhw, a dyna sydd wrth wraidd yr holl beth – rhoi hwb i’r merched yma ac ysbrydoli merched eraill sydd efallai ofn mentro, neu erioed wedi meddwl mentro. Ein bod ni’n annog mwy o ferched i fynd mewn i’r byd busnes yma yng Nghymru.”
Mae’r enwebiadau ar agor heddiw, a bydd y digwyddiad yn gwobrwyo enillwyr mewn 13 categori, o ‘Fusnes Newydd’ i ‘Defnydd o’r Iaith Gymraeg’. Un o’r categorïau newydd eleni ydy’r categori Menter Gymdeithasol.
“Yn anffodus, prin ydy’r merched sy’n rhedeg busnesau mewn rhai meysydd, felly [roeddwn i am] adlewyrchu’r meysydd newydd yma mae merched yn mynd iddyn nhw, fel mentrau cymdeithasol a busnesau gwyrdd.”
Maes gwrywaidd
Mae Heulwen Davies yn tybio bod yna fwy o heriau yn wynebu merched ym myd busnes, a’r rheiny’n gysylltiedig ag iechyd a chyfrifoldebau eraill, ynghyd â’r ffaith ei fod yn faes traddodiadol wrywaidd.
“Y peth cyntaf i ddweud ydy bod yna lai o ferched yn rhedeg busnesau na sydd o ddynion, dyna ydy’r traddodiad,” meddai.
“Ond be’ sy’n grêt yng Nghymru, o be’ dw i’n weld, ydy bod yna lot mwy o ferched erbyn hyn yn rhedeg busnesau.
“Efallai bod rhai merched yn teimlo’n llai hyderus am fynd amdani achos ei fod o’n faes yn draddodiadol lle mae dynion wedi bod yn gwneud y cyfan.
“Dydyn ni ond yn gorfod edrych ar raglen The Apprentice ar y teledu er enghraifft, Alan Sugar sydd dal yn y gadair yna ac mae ganddo fo ddyn wrth ei ochr ac un ferch.
“Dw i wedi bod mewn digwyddiadau yn y gorffennol, ac efallai mai ryw 10% ohonyn nhw sy’n ferched. Siaradwyr gwadd, y bobol sydd yno i’w hyfforddi nhw, dynion ydy lot ohonyn nhw.
“Mae yna dal waith i’w wneud ond dw i’n gobeithio bod y gwobrau yma’n helpu ac yn rhoi spotlight ar be’ rydyn ni’n ei wneud yng Nghymru.”
Magu plant a rhedeg busnes
Her arall ydy’r cydbwysedd rhwng magu plant, cyfrifoldeb sy’n disgyn ar fenywod yn draddodiadol, a rhedeg busnes.
“Be’ dw i eisiau profi drwy’r gwobrau yma ydy dy fod di dal yn gallu bod yn fam anhygoel a ti’n gallu rhedeg dy fusnes dy hun,” meddai Heulwen Davies.
“Elsi y ferch sydd wedi fy ysbrydoli i, mewn ffordd, i fynd amdani a rhedeg y busnes yma.
“Roeddwn i eisiau dangos iddi hi bod Mam yn gallu mentro, rhedeg busnes a chynnal ei hun a gallu bod, gobeithio, y fam orau alla’i fod iddi hi’r un pryd.
“Wrth redeg busnes fel mam, yn ei hanfod mae gen ti fwy o hyblygrwydd. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, ers lansio Llais Cymru, dw i wedi gallu cymryd yr haf i gyd i ffwrdd efo Elsi.”
Un o gategorïau’r gwobrau ydy ‘Mam Mewn Busnes’, ac mae Heulwen Davies yn awyddus i gydnabod faint o waith ychwanegol ydy rhedeg busnes ar y cyd â chyfrifoldebau gofalu eraill.
Effaith iechyd menywod
Elfen arall ydy effaith y mislif, cael plant, sut mae’r corff yn newid yn gorfforol ac yn feddyliol ar ôl cael plant, ac yna’r perimenopos a’r menopos, yn ôl Heulwen Davies.
“Dw i yn yr oedran yna rŵan yn mynd drwy’r perimenopos, ac mae’r ffaith fy mod i’n rhedeg busnes fy hun wedi helpu hynny. Dw i’n agored iawn wrth drafod pethau fel hyn, mae fy nghleientiaid i’n gwybod be ydy’r sefyllfa,” meddai.
“Os fysa ti’n gweithio i rywun arall, dw i’n teimlo y bysa fo lot anoddach yn y cyfnod yma mewn bywyd i fynd drwy rai o’r profiadau dw i wedi bod drwyddyn nhw o ganlyniad i’r perimenopos.
“Mae yna fwy o heriau, dw i’n teimlo, ond dyna un o’r rhesymau dw i wedi dechrau’r gwobrau yma, i ddathlu gymaint o ferched sydd [ym myd busnes].”