Daeth oddeutu 400 o bobol ynghyd yng Nghaerfyrddin heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 14) wrth i Gymdeithas yr Iaith wneud saith galwad dros ddyfodol y Gymraeg.
Fe wnaeth y mudiad alw am Ddeddf Addysg Gymraeg, Deddf Eiddo, cynllunio ar gyfer iaith a gwaith, cynnal cymunedau gwledig a bywoliaeth mewn amaeth, Menter Ddigidol Gymraeg, gwneud y Gymraeg yn iaith gwasanaethau cyhoeddus ac yn iaith gwaith.
Y siaradwyr yn y rali oedd Myfanwy Lewis, y Cynghorydd Glynog Davies, Cai Phillips, Wynfford James, Hefin Jones, Mirain Angharad, Dr Llinos Roberts a Dafydd Iwan.
Cyn i Dafydd Iwan annerch y gynulleidfa a pherfformio ‘Yma o Hyd’, fe orymdeithiodd y dorf gyda’r Fari Lwyd.
Bu’r rali yn galw am weithredu brys dros y Gymraeg a chymunedau Cymraeg yn wyneb canlyniadau’r Cyfrifiad gafodd eu cyhoeddi fis diwethaf.
Dangosodd y Cyfrifiad mai yn Sir Gâr unwaith eto y bu’r dirywiad mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg.
Roedd disgwyl i dros 200 o bobol gefnogi’r rali tu allan i Neuadd y Sir, ond mae lle i gredu bod yn nes at 400 yn bresennol.
Gorymdeithiodd yr ymgyrchwyr trwy’r dref at swyddfa’r Llywodraeth, lle cafodd gofynion y Gymdeithas am fframwaith cenedlaethol i hyrwyddo’r iaith eu cyflwyno, cyn i Dafydd Iwan annerch y dorf a pherfformio ‘Yma O Hyd’.
-
Addysg hollol Gymraeg erbyn 2050
Dyma Myfanwy Lewis yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau fod addysg yng Nghymru’n hollol Gymraeg erbyn 2050 fan bellaf:
-
“Y Gymraeg ac addysg yn cyd-gerdded yn esmwyth”
Yn ôl y Cynghorydd Glynog Davies, mae dirywiad y Gymraeg yn ei ward yn destun “siom”.
-
“Problem ddifrifol tai yn ein sir”
Mae prisiau tai “tu hwnt i afael” rhan fwya’r boblogaeth ifanc yn y sir, yn ôl Cai Phillips.
-
Cyflogaeth a’r economi
“Mae newidiadau mewn cyflogaeth, newidiadau yn yr economi, wedi effeithio fwy ar ddirywiad y Gymraeg yn y sir ac ardaloedd gwledig Cymru na dim byd arall,” meddai Wynfford James.
-
“60% o Sir Gaerfyrddin yn cael ei hystyried yn wledig”
Pwysigrwydd cymunedau gwledig ac amaethyddol oedd neges Hefin Jones o Undeb Amaethwyr Cymru.
-
“Dw i isio i stiwdants Cymru i allu twyllo yn Gymraeg”
Tynnodd Mirain Angharad sylw at ddiffyg technoleg i allu byw bywyd llawn trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sôn am yr hyn y gallai robotiaid AI Cymraeg ei wneud i’n helpu.
A dywedodd ei bod hi “wedi cael digon ar sefyll yn yr oerfel yn gofyn i’r Llywodraeth weithredu”…
-
Troi ffigurau’n realiti
“Ffigurau ydi’r rhain, a beth sy’n bwysig ydi sut mae hyn yn trosglwyddo i’n bywyd bob dydd ni,” meddai Dr Llinos Roberts am ffigurau’r Cyfrifiad.
-
“Mae’r iaith Gymraeg yn fyw”
“Dw i ddim wedi dod o Gaernarfon, yr holl ffordd i Gaerfyrddin i ddweud wrthoch chi bod yr iaith Gymraeg yn marw,” meddai Dafydd Iwan.
“Dyw hi ddim. Mae’r iaith Gymraeg yn fyw,” meddai wedyn cyn perfformio ‘Yma O Hyd’.