Mae disgwyl i Dafydd Iwan ddatgan yn Rali’r Cyfrif a gynhelir gan Gymdeithas yr Iaith yng Nghaerfyrddin heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 14) nad oes lle i anobeithio yn wyneb y cwymp yng nghanran siaradwyr Cymraeg, ac mai yn y frwydr y mae gobaith.
Bydd y rali yn galw am weithredu brys dros y Gymraeg a chymunedau Cymraeg yn wyneb canlyniadau’r Cyfrifiad a gyhoeddwyd fis diwethaf.
Dangosodd y Cyfrifiad mai yn Sir Gâr unwaith eto y bu’r dirywiad mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg.
Disgwylir i dros 200 o bobol gefnogi’r rali tu allan i Neuadd y Sir, lle bydd arweinydd y Cyngor Sir Darren Price yn bresennol.
Bydd yr ymgyrchwyr wedyn yn gorymdeithio trwy’r dref at swyddfa’r Llywodraeth lle cyflwynir gofynion y Gymdeithas am fframwaith cenedlaethol i hyrwyddo’r iaith.
Neges Dafydd Iwan
Bydd Dafydd Iwan yn dweud wrth y rali: “Rhaid inni gymryd sylw o rybudd ystadegau’r Cyfrifiad, ond ddylen ni byth anobeithio.
“Mae arwyddion clir fod yr ymgyrchu dros y 60 mlynedd diwethaf wedi creu chwyldro yng Nghymru, ac y mae’n bwysig ein bod yn dathlu hynny.
“Mae’r frwydr i ennill meddyliau a chalonnau’r Cymry, yn enwedig yr ifanc, yn parhau, ac yn y frwydr y mae’n gobaith.
“Ni ddaw byth i ben.”
Ar ran Cymdeithas yr Iaith yn y sir, bydd Sioned Elin yn dweud: “Os na lwyddwn i droi’r llanw yn awr, mae’n annhebygol y bydd unrhyw gymunedau naturiol Gymraeg ar ôl yn Sir Gâr erbyn y Cyfrifiad nesaf.
“Ond yn sicr dydy hi ddim yn amser i anobeithio, mae’n amser i weithredu.
“Byddwn ni’n mynd â saith o alwadau ar Lywodraeth Cymru fel sail i Raglen Argyfwng o gamau gweithredol i adfywio’n hiaith a’n cymunedau Cymraeg.”
Saith galwad
Y saith galwad fydd Cymdeithas yr Iaith yn lleisio yn y rali fydd:
- Deddf Addysg Gymraeg
- Deddf Eiddo
- Cynllunio ar gyfer Iaith a Gwaith
- Cynnal Cymunedau Gwledig a Bywoliaeth mewn Amaeth
- Menter Ddigidol Gymraeg
- Iaith Gwasanaethau Cyhoeddus
- Iaith Gwaith