Wel, mae wythnos arall wedi mynd heibio a dyw streic y gweithwyr iechyd yng Nghymru ddim agosach at gael ei datrys.

Fe geisiodd Llywodraeth Cymru ddod a’r anghydfod i ben gyda chynnig o daliad untro ddechrau’r wythnos, ond cafodd hwnnw ei wrthod ar ei union.

Cyn hynny, roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog o rhwng 4% a 5.5% i staff yn y Gwasanaeth Iechyd, oedd tua 15% yn is na gofynion yr undebau iechyd.

I le ’da ni’n mynd o fan hyn felly? Sut mae mynd ati i ddarganfod datrysiad? Oes gan y Gweinidog Iechyd unrhyw syniadau?

Nos Iau, dywedodd Eluned Morgan wrth raglen Y Byd yn ei Le ar S4C bod “wastad mwy” y gall y Llywodraeth ei wneud i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Ond beth yn union mae hynny yn ei feddwl?

Mae’r undebau iechyd am i’w staff dderbyn codiad cyflog o 19%.

Ond does dim modd i Lywodraeth Cymru gynnig y math hwnnw o godiad cyflog oni bai bod cyllid ychwanegol yn dod o Lundain, medd Eluned Morgan.

Beth ydi’r ateb felly? Parhau i fyw mewn gobaith y bydd ein huwch-arglwyddi yn San Steffan yn camu i’r adwy ac anfon rhagor o arian draw i Fae Caerdydd? Breuddwyd gwrach ’da chi’n galw peth felly.

Tybed a oes angen mynnu datganoli mwy o bwerau i Mark Drakeford a’i Gabinet er mwyn gallu mynd i’r afael â’r sefyllfa?

Neu efallai mai annibyniaeth yw’r unig ffordd mae modd gwir rymuso Llywodraeth Cymru i weithredu’n gadarnhaol ar ran pobol Cymru, gan gynnwys y rheiny sydd ar streic.

Yn sicr, mae angen i rywbeth newid. Oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn edrych llai fel llywodraeth a mwy fel cyngor sir pob wythnos!

Cymro ydi Gareth Bale!

Ddechrau’r wythnos fe ddaeth y newyddion roedd cefnogwyr Cymru ar hyd a lled y wlad wedi gobeithio fyddai byth yn dod.

Do, fe gyhoeddodd Gareth Bale ei fod yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol ar ôl gyrfa ddisglair.

Ymhlith y teyrngedau teimladwy, yr hel atgofion a’r galaru, roedd yna un peth fu’n mynd ar fy nerfau.

Roedd y cyfryngau, colofnwyr, cefnogwyr, pobol sy’n creu fideos pêl-droed ar wefannau fel YouTube, you name it, i gyd i weld ag obsesiwn gyda gofyn un cwestiwn: ‘Ai Gareth ydi’r chwaraewr Prydeinig gorau erioed?’

Rŵan, mae’n ddigon posib mai fo ydi o, ond pwy sy’n malio? Fel Cymro, dw i’n sicr ddim!

Cymro ydi Gareth Bale, ac mae’n debyg mai efo yw’r gorau erioed i wisgo’r crys coch. Roedd yn gyfrifol am arwain ein tîm cenedlaethol wrth iddyn nhw wireddu breuddwydion cenedl am ddegawd a mwy.

Ac mae’n debyg mai’r peth gorau amdano oedd pa mor angerddol oedd o am chwarae i Gymru, gymaint yr oedd o’n mwynhau’r pwysau o ysgwyddo gobeithion cenedl.

Fo oedd ein Mab Darogan ni, a ni’n unig. Felly digon o’r nonsens ‘Prydeinig’ ‘ma wir Dduw!