Fe fydd merch ysgol yn annerch rali fawr Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerfyrddin, gan alw am fwy o fentrau digidol yn yr iaith Gymraeg.
Yn ôl Mirain Angharad, sy’n 17 oed, mae angen ymgyrch debyg i’r un gafwyd i sefydlu S4C, er mwyn sicrhau bod digon o ddeunydd Cymraeg ar y We.
Caiff ‘Rali’r Cyfri’ ei chynnal wedi i Gyfrifiad 2021 ddangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin.
Yn 2011 roedd yna 78,048 o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, ond erbyn 2021 roedd y nifer lawr i 72,838.
O ran y ganran, mae’r nifer sy’n medru’r iaith wedi cwympo o 43.9% i 39.9%.
Yn y rali am ddau o gloch ger Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin, bydd galw ar y Llywodraeth i greu Fframwaith Camau Gweithredu i ddiogelu’r iaith yn y sir.
Bydd Mirain Angharad, sy’n dod o Dreforys ac yn mynd i Ysgol Bryn Tawe ym Mhenlan, yn galw am fwy o fentrau digidol Cymraeg.
“Gallwn gymharu hwn gyda’r ymgyrch oedd gyda ni yn y 70au ar gyfer S4C,” meddai Mirain Angharad wrth golwg360.
Cefnogaeth y Llywodraeth a Senedd Caerdydd
Yn ôl Mirain Angharad mae angen arian a chefnogaeth y Llywodraeth a Senedd Caerdydd er mwyn cael arlwy amrywiol ar y We ac ar apiau ac ati.
“Rydym angen arian a chefnogaeth y Senedd o ran offer,” meddai.
“Dydyn ni fel Cymdeithas yr Iaith methu gwneud hyn oherwydd nad oes gennym yr arbenigedd na’r dechnoleg yn y pethau yma, felly rydym angen yr adborth a’r cymorth a’r ariannu gan y Llywodraeth a gan Senedd Caerdydd er mwyn gwneud hyn ac er mwyn datblygu’r pethau yma.”
“Normaleiddio’r Gymraeg”
“Mae angen normaleiddio’r Gymraeg os mae’r Llywodraeth eisiau cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050,” meddai Mirain.
“Pam rydym yn mynd ar ein ffonau, mae angen i bethau fod yn Gymraeg.
“Dyma’r unig ffordd mae’r Gymraeg yn mynd i ffynnu.
“Dyma’r unig ffordd mae am ddatblygu, os mae pethau ar gael yn ddwyieithog ac yn Gymraeg ar-lein ac yn ddigidol.”
“Mor bwysig bod y Gymraeg yn dal fyny”
Ym marn Mirain mae sicrhau bod y Gymraeg ar y cyfryngau digidol yr un mor bwysig ag oedd sefydlu S4C yn 1982.
“Rwy’n meddwl bod mentrau digidol Cymraeg yn bwysig dyddiau yma oherwydd bod technoleg yn symud ymlaen mor gyflym.
“Mae o mor bwysig bod y Gymraeg yn dal fyny.
“Gallwn gymharu fe gyda’r ymgyrch oedd gyda ni yn y 70au ar gyfer S4C.
“Ar y pryd dyna oedd y dechnoleg newydd.
“Dyna oedd y pethau pwysig i ni, a rŵan y pethau pwysig yw creu pethau ar-lein, apiau a phethau i bawb ddefnyddio sydd ar-lein.
“Mae’n bwysig bod ni yng Nghymru yn gallu datblygu yn yr un ffordd â gwledydd eraill yn Gymraeg ar-lein.”
Mae Llywodraeth Prydain wedi darparu £7.5 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn yn benodol i greu cynnwys digidol.