Mae deiseb sy’n galw am ailenwi Pont Tywysog Cymru yn Bont Gareth Bale wedi ei gwrthod gan San Steffan a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Fe wnaeth Andrew Challis gais i greu deiseb i ailenwi’r bont yn dilyn cyhoeddiad Gareth Bale ei fod yn ymddeol o chwarae pêl-droed.

Roedd Andrew Challis am newid enw’r bont i ‘Bont Gareth Bale’ neu ‘Pont Bale’.

Cafodd y ddeiseb ei gwrthod gan Bwyllgor Deisebau Tŷ’r Cyffredin, sy’n cael ei gynnal ar y cyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a San Steffan.

“Nid ydym yn derbyn deisebau ynghylch anrhydeddau neu apwyntiadau,” meddai’r pwyllgor mewn datganiad.

“Mae hyn yn cynnwys ceisiadau i enwi seilwaith cyhoeddus er anrhydedd i unigolion.”

Cyhoeddodd cyn-gapten tîm pêl-droed Cymru ei ymddeoliad o’r byd pêl-droed ddechrau’r wythnos.

Mewn datganiad sydd wedi’i gyhoeddi gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, dywed mai hwn yw “penderfyniad mwyaf anodd” ei yrfa.

Enillodd 111 o gapiau dros ei wlad, gan sgorio 41 o goliau.

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd “na all geiriau gyfleu” ei deimladau o fod wedi cynrychioli’r genedl, ond fod y profiad “wedi newid nid yn unig fy mywyd, ond pwy ydw i”.

Daeth ei ymddeoliad yn dilyn ymgyrch siomedig Cymru yng Nghwpan y Byd, ac yntau hefyd wedi bod yn aelod o’r garfan mewn dwy gystadleuaeth Ewro, yn 2016 a 2020.

Dechreuodd ei yrfa yn Southampton, cyn symud i Tottenham Hotspur yn 2007.

Daeth i sylw’r byd ehangach pan symudodd i Real Madrid am £85m yn 2013, ond symudodd i Los Angeles haf diwethaf ar ôl cyfnod cythryblus yn Sbaen, er ei fod e wedi mynd yno ar ôl ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn Uwch Gynghrair Lloegr.

Enillodd 18 o dlysau yn ystod ei yrfa, ac roedd yn Chwaraewr y Flwyddyn yng Nghymru bob blwyddyn rhwng 2010 a 2016.

Gareth Bale

Teyrngedau’n cael eu talu i Gareth Bale yn Nhŷ’r Cyffredin

Disgrifiodd Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, gyn-gapten Cymru fel “arwr”