Mae cwestiynau newydd yn cael eu holi am fferm ddadleuol gafodd ei phrynu gan Lywodraeth Cymru, ac sydd wedi ei tharo gan lifogydd trwm.
Gwariodd Lywodraeth Cymru £4.25m ar brynu’r fferm ym Mhowys yn safle i gynnal gŵyl gerddorol yn ôl ym mis Mai 2021 – penderfyniad wnaeth sbarduno amheuon gan aelodau o’r Wasg, y cyhoedd a’r gwrthbleidiau.
Mae cwestiynau wedi cael eu holi am pam fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwario cymaint o arian ar y fferm, er nad oedd pennaeth yr ŵyl, Fiona Stewart, wedi cyflwyno cynllun busnes.
Yn fwy amheus byth oedd y ffaith fod y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, a’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi cwrdd â Fiona Stewart cyn cwblhau’r pryniant.
Fodd bynnag, mae Jeremy Miles yn mynnu mai “achlysur cymdeithasol” oedd y cinio hwn ac na chafodd “unrhyw fusnes gweinidogol ei drafod”.
“Yn amlwg, ni fyddwn i’n disgwyl fel Gweinidog Addysg i gael unrhyw rôl yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch fferm beth bynnag. Ond petai hynny’n codi yn y dyfodol, yna fel y byddwch wedi gweld o ddatganiad y Prif Weinidog, ni fyddwn i na’r Gweinidog Newid Hinsawdd [Julie James] yn cymryd rhan ynddo.”
Ar ben hynny, datgelodd Cais Rhyddid Gwybodaeth gafodd ei gyflwyno gan wefan The National nad oedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn unrhyw gyngor gan gwmnïau na sefydliadau yn y diwydiant cerddoriaeth cyn prynu’r fferm
Beth yw Gŵyl y Dyn Gwyrdd?
Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd, sy’n cael ei chynnal ger tref Crughywel ym Mhowys, yn un o ŵyliau cerddorol mwyaf y Deyrnas Unedig.
Pennaeth a pherchennog yr ŵyl yw Fiona Stewart, a fu yn ymgynghorydd i’r Cyngor Prydeinig a’r Swyddfa Dramor mewn swyddi blaenorol.
Mae’n honni cyflogi 200 o bobol yn llawn amser tra bod 5,000 o weithwyr eraill yn cael eu cyflogi ar adeg cynnal yr ŵyl – naill ai dros dro neu’n wirfoddol.
Yn ôl y trefnwyr mae’r ŵyl yn cynhyrchu £15m i economi Cymru, gyda chapasiti ar gyfer 60,000 o ymwelwyr sy’n talu hyd at £210 am docyn i bedwar diwrnod o adloniant.
“Esgeulustod”
Yn dilyn llifogydd trwm ar gaeau’r fferm, mae’r Ceidwadwyr yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o wario arian y trethdalwr yn wael.
“Mae holl saga Fferm Gilestone eisoes wedi profi i fod yn amheus, gyda gweinidogion yn cael eu cyhuddo o esgeulustod a blaenoriaethu’r prosiect cyn hyfywedd y sector ffermio yn yr ardal, ond mae hyn yn hoelen arall yn arch honiad Llafur eu bod yn cael gwerth-am-arian,” meddai James Evans, Aelod o’r Senedd Brycheiniog a Sir Faesyfed.
“Pe bai gan Lafur y synnwyr i ofyn i bobol leol ynglŷn â’r tir, fe fydden nhw wedi dweud wrthyn nhw y bydd y caeau yn gorlifo mewn tywydd garw – ac er mai gŵyl haf yw’r Dyn Gwyrdd, dyw hi ddim fel petai glaw trwm y tu hwnt i’r gaeaf yn beth prin yn y wlad yma.
“Yn y pen draw, nid yw’r mater hwn yn diflannu ac mae’n rhaid dwyn gweinidogion Llafur i gyfrif am wneud penderfyniad sy’n amddifadu ffermwyr ac yn prynu tir ar gyfer gŵyl, sy’n profi’n gynyddol anaddas am y rheswm y cafodd ei brynu yn y lle cyntaf.”