Mae deiseb wedi ei sefydlu er mwyn ceisio atal llofruddiwr Lynette White rhag cael ei ryddhau o’r carchar.
Cafodd y ddynes 20 oed ei thrywanu fwy na 50 o weithiau gan Jeffrey Gafoor yn ei fflat yn Nhre-biwt yng Nghaerdydd ar Ddydd San Ffolant 1988.
Er ei fod yn cael ei ryddhau yn achlysurol am un dydd ar y tro, mae Bwrdd Parôl wedi gwrthod cais diweddaraf Jeffrey Gafoor i gael gadael carchar a bod yn gwbl rydd.
Ond mi fydd y llofrudd yn gymwys ar gyfer adolygiad parôl arall maes o law.
Cefndir yr achos
Llofruddiaeth Lynette White yw un o’r achosion mwyaf amlwg a dadleuol yn hanes Heddlu’r De.
Yn dilyn ei llofruddiaeth, cyhoeddodd Heddlu’r De lun ffotoffit o ddyn gwyn â gwaed arno a gafodd ei weld yn y cyffiniau, ond doedden nhw ddim yn gallu dod o hyd i’r dyn.
Er hynny, cafwyd tri dyn – Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller – yn euog o’i llofruddiaeth yn 1990, a hynny ar gam.
Bu ymgyrch lwyddiannus gan gymuned Tre-biwt i ryddhau’r dynion, a daeth cydnabyddiaeth ryngwladol i’w rhan.
Ddwy flynedd ar ôl i’r tri gael eu dedfrydu, dyfarnodd y Llys Apêl fod camweinyddu cyfiawnder difrifol wedi digwydd, a chafodd y tri eu rhyddhau yn 1992.
Ar ôl datblygiadau mewn technoleg DNA, cafwyd Jeffrey Gafoor yn euog o’r llofruddiaeth yn 2004 a’i garcharu am oes.
Dywedodd y barnwr y dylai dreulio o leiaf 13 mlynedd cyn cael ei ystyried ar gyfer parôl.
Adolygiad parôl
Fis diwethaf fe wnaeth y Bwrdd Parôl ystyried a ddylai Jeffrey Gafoor gael ei ryddhau.
Mae adroddiad i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cadarnhau ei fod “wedi ei ryddhau’n llwyddiannus dros dro o’r carchar”.
“Bu [y] panel yn ystyried ffeiliau Mr Gafoor, a baratowyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
“Roedd yn cynnwys adroddiadau diweddar gan swyddog prawf Mr Gafoor yn y gymuned a dogfennaeth arall gan y sefydliad, gan gynnwys asesiadau seicolegol.
“Cafodd y panel weld datganiad personol dioddefwr.
“Bu’r panel yn ystyried yn ofalus iawn effaith a chanlyniadau troseddau Mr Gafoor a amlinellwyd yn y datganiad hwn.”
Er eu bod yn teimlo nad yw ymddygiad Jeffrey Gafoor yn y carchar achosi unrhyw bryderon, nid oedd y panel yn fodlon ei bod yn addas i’w ryddhau.
‘Gadewch i ni ei gadw lle y dylai fod’
Wrth alw ar bobol i arwyddo’r ddeiseb yn galw am gadw Jeffrey Gafoor yn y carchar, dywedodd y sefydlydd Amanda Aubrey-Burden:
“Cafodd ei ddedfrydu i oes, ac eto er ei fod yn cael ei ystyried yn anaddas i’w ryddhau yn barhaol, mae bellach yn cael bod yn rhydd am rai dyddiau achlysurol?
“Dyma’r dyn a drywanodd fenyw ifanc dros 50 o weithiau am £30.
“Roedd yn byw gyda’i euogrwydd tra roedd cymuned gyfan yn dioddef oherwydd ei drosedd, ac rydyn ni i fod i dderbyn hynny!??
“Ni ellir ei ryddhau.
“Mae’n rhaid iddo aros y tu ôl i fariau.
“Er mwyn pawb oedd, ac sy’n parhau i gael eu heffeithio gan yr hyn a wnaeth, nid yw’r dyddiau hyn pan mae ei draed yn rhydd yn ddim llai na sarhad!”
Mewn neges ar Twitter dywedodd merch Tony Paris, Cassie:
“Mae Jeffrey Gafoor wedi cael ei ryddhau yn achlysurol am un dydd ar y tro.
“Rwy’n ffieiddio ac yn dorcalonnus o glywed y newyddion hyn.
“Ni ddylai byth gamu troed y tu allan, a phydru yn y carchar fel yr oedd ef a’r heddlu yn fodlon gadael i fy nhad wneud. Pwy ganiataodd hyn?”
Ychwanegodd: “Rydym yn cael galwadau ffôn gan bawb yn dweud wrthym ei fod yn cael ei ryddhau am un dydd ar y tro.
“Nawr mae’n rhaid i’r teuluoedd ail-fyw trawma.
“Nid yw hyn yn iawn a dylid ei ddiddymu cyn gynted â phosibl!!”