Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru wedi cydnabod y gall Llywodraeth Cymru “wneud mwy” i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Dywedodd Eluned Morgan wrth raglen Y Byd yn ei Le ar S4C bod “wastad mwy” y gall llywodraeth ei wneud.

Daw ei sylwadau ar ôl i drafodaethau gyda gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fethu â dod i gytundeb i ddatrys y streiciau diweddar.

Dywed undebau sy’n cynrychioli nyrsys a staff ambiwlans eu bod yn bwriadu parhau i streicio ar ôl gwrthod cynnig o daliad un tro i’w haelodau.

Mae’r undebau iechyd am i’w staff dderbyn codiad cyflog o 19%.

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud nad yw ei Lywodraeth mewn sefyllfa i gynnig mwy o arian oni bai ei fod yn cael rhagor o arian gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ar hyn o bryd, does dim rhagor o streiciau nyrsys wedi’u cynllunio yng Nghymru, ond bydd staff ambiwlans sy’n aelodau o Unite, yn cerdded allan o’r gwaith am 24 awr ar y tro ar Ionawr 19 a 23.

‘Wastad mwy y gall Llywodraeth ei wneud’

“Gadewch i ni fod yn glir, mae wastad mwy y gall Llywodraeth ei wneud,” meddai Eluned Morgan pan gafodd ei holi a oedd Llafur Cymru wedi colli cyfleoedd yn ystod eu 23 mlynedd mewn grym i sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn gwell sefyllfa i fynd i’r afael â’r argyfwng y gaeaf hwn.

“Mae gennym ni boblogaeth oedrannus, felly wrth gwrs gallwn ni wneud mwy, mae wastad lle i wneud mwy.

“Ond dw i’n credu ei bod hi’n bwysig bod pobol yn deall bod her yma.

“Er enghraifft, pan greodd Aneurin Bevan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1948, roedd pobol yn gweithio tan eu bod yn 65 oed ac yn marw pan oedden nhw’n 68 oed. Dyna oedd y realiti.

“Erbyn heddiw, mae llwyddiant y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi creu problem i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd oherwydd nawr, mae pobol yn byw mor hir ac yn dioddef gyda phroblemau mor gymhleth, efallai ein bod ni fel cymdeithas ddim wedi derbyn faint yn fwy sydd angen i ni dalu am hynny.”

Gwrthbleidiau’r Senedd yn cefnogi’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn sgil diffyg cytundeb dros gyflogau

Dydy’r undeb ddim wedi dod i gytundeb yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi’r bai am y sefyllfa ar Lywodraeth San Steffan