Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi datgan eu cefnogaeth i’r Coleg Nyrsio Brenhinol, ar ôl iddyn nhw fethu â dod i gytundeb â Llywodraeth Cymru tros gyflogau.
Daw hyn ar ôl i undebau gyfarfod ag Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, ddoe (dydd Iau, Ionawr 12).
Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn cyhuddo’r llywodraeth o “beidio â negodi’n ddifrifol ar gyflogau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol”.
Maen nhw hefyd yn eu beirniadu am geisio rhoi’r bai am benderfyniadau sydd wedi’u datganoli ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Cefndir
Dywedodd undeb Unsain ddechrau’r wythnos ei bod hi’n annhebygol y byddai trafodaethau rhwng undebau iechyd a Llywodraeth Cymru’n atal rhagor o streiciau.
Mae’r undeb, sy’n cynrychioli degau o filoedd o staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, wedi cyfarfod â Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Iau, Ionawr 12) i drafod tâl ac amodau gwaith gweithwyr iechyd.
Cafodd y cyfarfod ag Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, ei gynnal wedi i Lywodraeth Cymru awgrymu’r posibilrwydd o roi taliad untro i weithwyr iechyd.
Mewn llythyr at holl undebau iechyd Cymru, fe wnaethon nhw hefyd awgrymu datrysiadau posib yn ymwneud â chyflogi staff asiantaethau a ffyrdd o adfer hyder yn y corff sy’n adolygu tâl gweithwyr.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog rhwng 4% a 5.5% i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond mae’r undebau am weld codiad cyflog sy’n cyd-fynd â chwyddiant.
Mewn cynhadledd i’r wasg ddechrau’r wythnos, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford na all Llywodraeth Cymru gynnig mwy o godiad cyflog i weithwyr oni bai bod Llywodraeth San Steffan yn rhoi mwy o arian iddyn nhw.
Dywedodd hefyd nad yw’n teimlo chwaith fod y Gwasanaeth Iechyd “mewn argyfwng di-ddiwedd fel mae rhai pobol yn ei awgrymu”, ond ymddiheurodd wrth staff a chleifion am y trafferthion maen nhw wedi eu hwynebu.
‘Hollol gywilyddus’
“Mae’n hollol gywilyddus fod y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn chwarae gwleidyddiaeth mewn trafodaethau ag undebau nyrsys fel hyn – mae ceisio’i wneud yn y Senedd yn un peth, ond mae ei wneud e yn wynebau nyrsys yn rhyfeddol,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Rwy’n falch fod y Coleg Nyrsio Brenhinol yn tynnu sylw at y ffaith fod Llafur yn gyfrifol am gyflogau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar ôl bod yn gyfrifol am ofal iechyd Cymreig ers 26 o flynyddoedd, ond dylen nhw gael sgwrs iawn â [Mark] Drakeford a’i weinidogion, nid esgusodion pitw.
“Mae’n glir fod hyn ond yn gêm i Lafur sydd eisiau sylw da am gyfarfod â nyrsys ond heb orfod cael trafodaethau difrifol, mewn gwirionedd.
“Mae’n hollol ffuantus.
“Os nad yw Llafur yn gweithredu go iawn, yna fyddwn ni ddim yn gallu mynd i’r afael â’r amserau ymateb ambiwlansys arafaf ar gofnod, nac amserau aros gwaethaf Prydain ar gyfer unedau damweiniau ac achosion brys, a’r rhestr aros hiraf am driniaeth yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’n “hollol iawn” fod y Coleg Nyrsio Brenhinol yn tynnu sylw at y sefyllfa.
“Mae ganddyn nhw ystod o bwerau y gallen nhw eu defnyddio i ddod o hyd i ddatrysiad, a gwneud cynnig i staff gofal iechyd sy’n deg ac sy’n helpu i ddatrys yr argyfwng recriwtio a chadw,” meddai’r arweinydd Jane Dodds.
“A hithau wedi’i datgelu heddiw fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi gwario £260m swmpus ar staff asiantaeth a banc yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’n fwy hanfodol nag erioed fod staff llawn amser y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael eu cadw, ac nad yw’r ddibyniaeth ar staff asiantaeth yn cynyddu ymhellach.”