Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i greu cynllun gweithlu sy’n ymrwymo i ddod â chyflogi staff asiantaethau preifat i ben yn raddol dros y pedair blynedd nesaf.
Daw’r galwadau ar ôl i ffigurau newydd ddatgelu bod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi gwario £260m ar gostau staff asiantaeth a banc yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i helpu i lenwi bylchau yn y rota.
Mae llawer o’r staff asiantaeth yn gadael contractau’r Gwasanaeth Iechyd am yr hyblygrwydd a rheolaeth mae gwaith asiantaeth yn eu cynnig.
Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “dalu dros yr ods i guddio eu diffyg rheolaeth” ac yn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru “wneud ymrwymiad ystyrlon” i ddod â’r defnydd o staff asiantaeth breifat i ben yn raddol.
Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol eisoes wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o yrru staff nyrsio allan o’r Gwasanaeth Iechyd ac i waith asiantaeth trwy dorri eu cyflogau.
‘Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb’
“Mae Llywodraeth Cymru yn dweud dro ar ôl tro nad oes arian i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond pan maen nhw’n gwario £260m ar staff asiantaeth, dydi’r niferoedd ddim yn adio i fyny,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mae Plaid Cymru eisoes wedi gwneud y cyfrifiadau a gwyddom mai dim ond £176m yn ychwanegol fyddai ei angen ar gynnig cychwynnol o 8% i nyrsys yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
“Rydym nawr angen ymrwymiad ystyrlon gan Lywodraeth Cymru i ddod â staff asiantaeth breifat i ben yn raddol dros y pedair blynedd nesaf, gyda llwybr clir sut y byddant yn cyflawni hyn.
“Mae’r orddibyniaeth ar staff asiantaeth yn symptom o gamreoli’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.
“Maen nhw’n talu mwy i guddio’r diffyg gallu i drin staff gweithgar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gywir.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru edrych yn galed ar y rhesymau mae staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dewis gweithio i asiantaethau.
“Pan fydd staff yn gadael cyflogaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn llu, er mwyn cael mwy o hyblygrwydd a rheolaeth gan waith asiantaeth – ac yn aml yn dychwelyd i’r gwaith yn yr un lle ag y maent newydd ei adael – rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am y sefyllfa warthus hon.
“Bydd, byddwn bob amser angen ffyrdd o ddod â staff i mewn ar gyfer sifftiau ychwanegol, ond rhaid tynnu elw o weithio asiantaeth.
“Rhaid atal y costau cynyddol hyn ar unwaith, a byddai cynllun gweithlu newydd, sy’n cynnwys yr hyblygrwydd a’r rheolaeth sydd eu hangen ar staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn dangos bod Llywodraeth Cymru o ddifrif am fynd i’r afael â’r argyfwng presennol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”