Mae dros 400 o swyddi wedi’u rhoi mewn perygl yn Liberty Steel fel rhan o gynllun ailstrwythuro mawr oherwydd costau ynni cynyddol.
Cyhoeddodd y cwmni heddiw (dydd Iau, Ionawr 12) y byddan nhw’n rhoi’r gorau i gynhyrchu dur yn eu ffatrïoedd yng Nghasnewydd a Thredegar, gan adael 444 o swyddi yn y fantol.
Bydd y ffatri yng Nghasnewydd yn cael ei thrawsnewid yn “ganolfan storio, dosbarthu a masnachu”.
Yn ôl Liberty Steel, bydd y newidiadau yn sicrhau “ffordd hyfyw ymlaen” i’r busnes, ac fe fydd unrhyw un sy’n cael ei effeithio yn cael cynnig swyddi eraill, yn hytrach na chael eu diswyddo.
Mae’r cwmni wedi wynebu pwysau ariannol cynyddol ers cwymp eu benthyciwr mwyaf, Greensill Capital, yn 2021.
Angen cynllun hirdymor ar gyfer y diwydiant
Wrth ymateb i’r newyddion dywed Jessica Morden, Aelod Seneddol Llafur Dwyrain Casnewydd, ar y cyd â John Griffiths, Aelod Llafur o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd, fod y “newyddion hwn yn hynod o galed ar y gweithlu ymroddedig yn Liberty Steel a’u teuluoedd”.
“Mae’r gweithwyr wedi dangos y proffesiynoldeb mwyaf yn ystod cyfnod ansefydlog i’r cwmni a’r diwydiant ehangach dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai’r ddau.
“Byddwn yn gweithio gyda’r undebau llafur sy’n cynrychioli staff i fynd ar drywydd opsiynau sydd ar gael i’r gweithlu ar yr adeg anodd iawn hon.
“Er bod Liberty yn amlwg wedi wynebu problemau fel cwmni, mae newyddion heddiw yn tynnu sylw unwaith eto at yr angen dybryd am gynllun hirdymor ar gyfer y diwydiant dur – rhywbeth nad ydym wedi’i weld gan lywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai Jessica Morden.
“Byddaf yn codi hyn ar y cyfle cyntaf posibl gyda gweinidogion llywodraeth y Deyrnas Unedig.”
“Mae Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, yn canolbwyntio’n fawr ar y pwyntiau hyn ac rydym yn gwybod ei fod wedi eu gwneud i’w gymheiriaid yn y DU mewn cyfarfodydd blaenorol o Gyngor Dur y DU,” meddai John Griffiths.
“Mae dur wrth galon cymunedau fel ein un ni yn nwyrain Casnewydd a dylid ei osod hefyd yng nghanol strategaeth ddiwydiannol werdd flaengar: mae’n ddiwydiant sydd ei angen arnom ar gyfer ein diogelwch cenedlaethol ac ar gyfer adeiladu seilwaith y dyfodol.”
‘Peri pryder mawr’
Wrth ymateb i’r newyddion, dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ei bod yn “peri pryder mawr fod safle Liberty yng Nghasnewydd ar fin cael ei ‘atal”.
“Er fy mod yn croesawu symudiadau gan Liberty i leihau unrhyw golledion swyddi, bydd llawer yn pryderu am ddyfodol nid yn unig y safle hwn ond cynhyrchu dur a chynhyrchion cysylltiedig yng Nghymru gyfan,” meddai.
“Un o’r prif heriau y mae’r diwydiant Dur yn ei wynebu yw costau ynni uchel, rhywbeth y mae’r Ceidwadwyr wedi methu’n llwyr â’i wynebu na pharatoi ar ei gyfer yn y gorffennol.
“Mae cynhyrchu dur domestig a chynhyrchion cysylltiedig fel Hot Rolled Coil (HRC) yn hanfodol i’n diogelwch cenedlaethol, mae angen i ni weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd agwedd llawer mwy ymarferol i ddiogelu cyflogaeth yn y diwydiant ac i gynorthwyo yn y newid i gynhyrchu dur gwyrdd.”