Mae undeb GMB yn dweud nad ydyn nhw wedi derbyn cynnig ar gyfer mwy o gyflog i weithwyr iechyd y gallan nhw ei roi gerbron eu haelodau eto.

Daw hyn ar ôl i nifer o undebau gyfarfod ag Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, heddiw (dydd Iau, Ionawr 12).

Yn ôl yr undeb, dywedodd hi yn ystod y cyfarfod “na fyddai unrhyw arian sy’n cael ei gyflwyno yn cynnal cynnydd cyfunol wrth symud ymlaen”.

Ychwanegodd y byddai’n cydweithio ag undebau er mwyn penderfynu sut y gallai arian gael ei gyflwyno fel rhan o dâl sydd heb fod yn gyfunol.

“Dydyn ni ddim wedi cael cynnig y gallwn ni ei roi gerbron ein haelodau eto,” meddai Nathan Holman, sy’n gyfrifol am iechyd yng Nghymru yn undeb GMB.

“Roedd GMB wedi rhoi gwybod i’r gweinidog na fyddai ein haelodau’n derbyn taliad untro gan na fyddai hyn yn ddigonol i fynd i’r afael â’r problemau gwirioneddol o ran cyflog.

“Bydd GMB, wrth gwrs, yn aros o amgylch y bwrdd i drafod.

“Fodd bynnag, bydd ein haelodau’n parhau i frwydro am gyflog teg a fydd dim dewis gennym ond parhau i weithredu’n ddiwydiannol.”

Cefndir

Dywedodd undeb Unsain ddechrau’r wythnos ei bod hi’n annhebygol y byddai trafodaethau rhwng undebau iechyd a Llywodraeth Cymru’n atal rhagor o streiciau.

Mae’r undeb, sy’n cynrychioli degau o filoedd o staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, wedi cyfarfod â Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Iau, Ionawr 12) i drafod tâl ac amodau gwaith gweithwyr iechyd.

Cafodd y cyfarfod ag Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, ei gynnal wedi i Lywodraeth Cymru awgrymu’r posibilrwydd o roi taliad untro i weithwyr iechyd.

Mewn llythyr at holl undebau iechyd Cymru, fe wnaethon nhw hefyd awgrymu datrysiadau posib yn ymwneud â chyflogi staff asiantaethau a ffyrdd o adfer hyder yn y corff sy’n adolygu tâl gweithwyr.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog rhwng 4% a 5.5% i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond mae’r undebau am weld codiad cyflog sy’n cyd-fynd â chwyddiant.

Mewn cynhadledd i’r wasg ddechrau’r wythnos, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford na all Llywodraeth Cymru gynnig mwy o godiad cyflog i weithwyr oni bai bod Llywodraeth San Steffan yn rhoi mwy o arian iddyn nhw.

Dywedodd hefyd nad yw’n teimlo chwaith fod y Gwasanaeth Iechyd “mewn argyfwng di-ddiwedd fel mae rhai pobol yn ei awgrymu”, ond ymddiheurodd wrth staff a chleifion am y trafferthion maen nhw wedi eu hwynebu.