Bydd y Fari Lwyd yn cael ei chynnal mewn lleoliadau ar draws y wlad i ddathlu’r Hen Galan y penwythnos hwn.

Hen draddodiad Cymreig yw’r Fari Lwyd, ac mae’n cael ei ddathlu ar yr Hen Galan, sy’n rhan o’r hen galendr, yn hytrach na Dydd Calan y calendr presennol.

Mae’n draddodiad sydd yn bennaf â’i wreiddiau yn y canolbarth a’r de, ond mae’r arfer bellach ar gynnydd ar hyd a lled y wlad.

Dyma lle gallwch chi weld y Fari…


Pontcanna a Threganna

Os yw Caerdydd o fewn cyrraedd i chi, bydd y Fari Lwyd ar daith drwy Bontcanna a Threganna nos Wener (Ionawr 13). Trefn y daith fydd:

7.00yh: Pontcanna Inn

7.30yh Y Beverley

8.15yh: Yr Halfway

9.00yh: Tafarn Victoria Park (lan lofft)

Bydd canu cymdeithasol i ddilyn yn y Victoria Park.

Taith Y Fari Lwyd – Pontcanna a Threganna

19:00, 13 Ionawr 2023
Taith y Fari Lwyd gyda Dawnswyr Twrch Trwyth Ymunwch gyda’r Fari Lwyd ar ei thaith drwy Pontcanna a Threganna:7.00pm Pontcanna Inn7.30pm Beverley8.15pm Halfway9.00pm Victoria Park (lan …

Hen Galan yn y Vale

Bydd y Fari Lwyd yn ymweld â Thafarn y Vale, Felin-fach am 7:30yh nos Wener (Ionawr 13) ar ôl ei thaith rownd y pentref.

Bydd cerddoriaeth draddodiadol yn y dafarn – y cyfan yn rhad ac am ddim, â chroeso i bawb.

I ymuno â chriw Y Fari Lwyd, ebostiwch cysylltu@tafarn.cymru

Hen Galan yn y Vale

19:30, 13 Ionawr 2023
Bydd y Fari Lwyd yn ymweld â’r Vale ar ôl pwnco rownd y pentre. Cerddoriaeth draddodiadol yn y dafarn – y cyfan yn rhad ac am ddim, â chroeso i bawb.

Dinas Mawddwy

Nos Sadwrn (Ionawr 14), bydd y Fari Lwyd ar daith o amgylch Dinas Mawddwy.

Y gwestai arbennig eleni fydd Lo-fi Jones a Dawnswyr Aberystwyth.

Trefn y daith fydd:

6:30yh: Bridgands Inn, Mallwyd

8:30yh: Minllyn / Yr Hen Siop

9:30yh: Llew Coch


Aberystwyth

Bydd yr arfer gwerin hefyd yn cael ei chynnal o amgylch Aberystwyth nos Wener (Ionawr 13).

Trefn y Fari fydd:

4:00yh – 4:30yh: Bandstand

4:45yh – 5:15yh: Bottle & Barrel

5:30yh – 6:00yh: Hen Lew Du

6:15yh – 6:45yh: Ship & Castle

6:50yh – 7:20yh: Yr Angel

7:30yh: Bandstand


Caerllion

Yn ôl trefnwyr Gŵyl Caerllion, mae’r galw am ddychweliad Mari Caerllion wedi bod yn rhyfeddol eleni.

Er na fydd gorymdaith drwy strydoedd y dref, bydd y Fari Lwyd yn cyrraedd yr Hanbury Arms am 8yh nos Sadwrn (Ionawr 14), a bydd Noson Lawen i ddilyn.


Pontardawe

Ymunwch â Gwasanaeth Blwyddyn Newydd Capel Gellionnen ddydd Sul (Ionawr 15), lle bydd y Fari Lwyd yn ymddangos.


Tafarn Sinc, Rhos-y-bwlch

Ewch draw i Dafarn Sinc yn Rhos-y-bwlch nos Wener (Ionawr 13) am gyfle i weld y Fari Lwyd o 8yh ymlaen.


Os hoffech chi sôn am lefydd eraill fydd y Fari Lwyd yn ymddangos yn eich eich ardal chi, ychwanegwch ddigwyddiad yng Nghalendr360.